Mae enillydd Gwobr John ac Ceridwen Hughes yn Eisteddfod yr Urdd eleni wedi treulio chwarter canrif yn
 hyfforddi pobol ifanc i ddawnsio.

Ond mae Meryl Katrina Jones o bentre’ Talog yn Sir Gaerfyrddin yn credu’r un mor gry’ fod angen i bawb gael cyfle i wneud eu gorau yn eu maes – yn enwedig pobol ifanc ag anableddau.

“Mae’n bwysig i bawb gael cyfle yn ol eu gallu,” meddai Meryl, “ac rwy’n teimlo fy mod i wedi cael sawl cyfle ar hyd y blynyddoedd.

“Wrth weithio gyda’r Ffermwyr Ifanc, dawnswyr ac Aelwyd Hafodwenog, wy’ wedi bod ar daith i Iwerddon, wy’ wedi mynd a chriw mas i Barbados lle wnaeth y bechgyn i gyd losgi cefne eu traed yn yr haul, a gweithio gyda phobol arbennig.

“Mae derbyn y wobr hon yn brofiad arbennig eleni,” meddai wedyn, “ac mae’n hwb mawr i mi, yn bersonol.”