Mae cantores y West End wedi cyfadde’ mai cystadleuydd oedd “wastad yn dod yn ail” oedd hi yn
eisteddfodau’r Urdd ers talwm.
Ond mae’r profiad o gystadlu wedi gwneud Connie Fisher yn gyfarwydd a mynd i gyfweliadau gyda chyfansoddwyr a chynhyrchwyr mawr fel Andrew Lloyd Webber.
“Roedd methu cael llwyfan yn yr Urdd yn llawer gwaeth na methu cael rhan mewn clyweliad,” meddai’r gantores ar faes yr Eisteddfod heddiw.
“Mae’r Urdd hefyd wedi rhoi’r iaith Gymraeg i mi, gan nad yw fy rhieni’n siarad gair o’r iaith. Ges i fy ngeni yng Ngogledd Iwerddon, cyn i’r teulu symud i Gastell Haidd pan o’n i’n bedair oed.”
Teyrnged i Marilyn Lewis
Mae Connie Fisher wedi talu teyrnged arbennig i hyfforddwraig Cor Newyddion Da o Maenclochog, am “adnabod” ei thalent a rhoi cyfleoedd iddi berfformio.
“Os oedd Andrew Lloyd Webber yn codi ofn arna’ i, mae Marilyn yn codi mwy o ofn arna’ i,” meddai Connie.
“Pan o’n i’n cystadlu ar y llefaru i ddysgwyr dan 15 oed, fe welodd Marilyn rywbeth ynof fi, ac roedd canu a chydweithio gydag aelodau eraill Cor Newyddion Da yn fwynhad pur.”