Sian Teifi yng Nghilwendeg
Mae’n 30 mlynedd ers i un o feirniaid llefaru’r Urdd eleni ddechrau ar y gwaith. Bryd hynny, roedd hi’n 23 oed ac yn dal yn ddigon ifanc i gystadlu ym mhrifwyl ieuenctid Cymru ei hun.
“Eisteddfod Aberafon oedd yr eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gynta’ i mi feirniadu ynddi,” meddai Sian Teifi, y wraig sy’n gyfrifol am roi cymeriad Sali Mali ar y teledu a’r unig ferch i ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn ddwywaith.
Mae hi hefyd yn ferch leol i Gilwendeg – yn dod yn wreiddiol o Gwmcou.
“Mae llefaru wedi newid yn ystod y deng mlynedd ar hugain yna, oherwydd y nifer o gyfleoedd sydd yna i bobol ifanc heddiw,” meddai.
“Pan enillais i’r Llwyd o’r Bryn, roedd nifer o gyngherddau lle’r oedd adroddwyr yn cael cymryd rhan. Ond erbyn hyn, gyda bod yna fwy o wersi Drama mewn ysgolion, mae llefarwyr llwyddiannus yn dueddol o fynd i fyd action.”
Dechrau yn eira 1979
Fe ddechreuodd Sian Teifi feirniadu pan oedd hi’n 19 oed, ac yn fyfyrwraig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Yn fore iawn un bore Sadwrn, pan oedd eira’n drwch dros Gymru, fe glywodd gnocio taer iawn ar ddrws ei hystafell yn Neuadd Pantycelyn…
“Alun Jones, Penweddig, oedd yno, gydag un o swyddogion yr Urdd,” meddai Sian Teifi. “Oedd e’n gofyn a allen i feirniadu Eisteddfod Gylch Aberystwyth y bore hwnnw – mewn chwarter awr!”
Y Cylch sy’n bwysig
Mae Sian Teifi’n credu mai yn eisteddfodau Cylch yr Urdd y mae’r cyfrifoldeb mwya’ ar ysgwyddau beirniaid.
“Yno y mae meithrin brwdfrydedd plant, ond yna mae modd chwalu breuddwydion hefyd,” meddai. “Nid un eisteddfod yw’r Urdd, nage? Mae’n rhagbrawf a llwyfan yn y Cylch, mae’n rhagbrawf a llwyfan yn y Rhanbarth, cyn dod i’r Genedlaethol.
“Mae beirniadu yr wythnos hon wedi bod yn lot o hwyl. Yn yr eisteddfodau mae rhywun yn gweld ffrindiau nad ydw i’n eu gweld weddill y flwyddyn. Mae’n braf.”