Simon Cowell - dim i'w ddweud wrth Berlau Amlwch
Doedd gan feirniaid Britain’s Got Talent ddim i’w ddweud wrth un o grwpiau dawns buddugol Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni.

Pan aeth grwp dawnsio disgo Perlau o Amlwch i glyweliadau’r rhaglen deledu ym Manceinion, ychydig eiliadau o amser gawson nhw cyn i’r arch-feirniad, Simon Cowell, weiddi “Off”, ac i’w gyd-feirniad, Amanda Holden ddweud “I’ve seen it all before!”

Ond ddoe, ar lwyfan yr Urdd yng Nghilwendeg, fe ddaeth y grwp yn ail yng nghystadleuaeth Grwp Dawnsio Hip-hop/Stryd/Disgo Blwyddyn 7-9. Ac yn fwy na hynny, maen nhw’n dod i’r brig yn gyson yn yr Urdd a’r Genedlaethol ers blynyddoedd.

Sy’n profi, efallai nad ydi Simon Cowell yn gwybod cymaint a hynny, wedi’r cwbwl.