12,029 o bobol ddaeth trwy glwydi maes Cilwendeg yn Sir Benfro heddiw, ar ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae hynny 2,000 yn llai gyda’r 14,304 o ymwelwyr yn Eisteddfod Eryri yng Nglynllifon y llynedd.

Erbyn diwedd trydydd dydd eisteddfod Sir Benfro, mae cyfanswm o 48,152 wedi dod i Gilwendeg. Erbyn yr un amser y llynedd, roedd 62,738 wedi dod trwy’r gatiau Glynllifon.