Mae problemau trydanol Cilwendeg wedi’u datrys, yn ol Cyfarwydd Eisteddfod yr Urdd.

“Roedd generator i lawr, ac mae’r cwmni trydanwyr wedi dod a generator arall i lawr, felly mae popeth wedi sortio,” meddai Aled Sion wrth golwg360.

“Ches i ddim cwynion ynglyn a’r trafferthion, ac mae’n rhaid i mi ddweud nad o’n i’n ymwybodol o’r peth nes i’r broblem gael ei sortio.

“Yn amlwg, ro’n i’n ymwybodol o’r problemau ddydd Llun, pan gollon ni drydan yn Stiwdio 5, ond mae popeth bellach yn iawn.

“A gyda’r tywydd yn gwella, fe ddylen ni gael llai o broblemau yn ymwneud a’r tywydd,” meddai Aled Sion wedyn.

Heddiw, roedd y brif broblem yn ymwneud a’r cyflenwad trydan yn ardal Caffi Mistar Urdd a’r adran fwyd.