Gwaith Thomas Mathias ar wal Caffi Mistar Urdd
Mae’r rheiny sy’n mwynhau eu cinio a’u swper yng Nghaffi Mistar Urdd ar faes eisteddfod yr Urdd, hefyd yn gallu mwynhau rhai hen luniau o’r ardal.
Ar hyd rhai o waliau’r pafiliwn gwyn, y mae ffotograffau o waith y ffotograffydd, Thomas Matthias, a oedd byw rhwng 1866 ac 1940.
“Mae o’n dda gweld yr amrywiaeth o syniadau mae Thomas Matthias yn ei arddangos,” meddai Glyn Reider, ffotograffydd brwdfrydig o Ysgol y Preseli sy’n bwriadu mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Ffotograffiaeth ym mis Hydref.
“Mae’r lluniau’n dweud stori bywyd mewn llun. Roedd Tom Mathias yn ffotograffydd yng nghyfnod clasurol ffotograffiaeth, ac mae ei luniau du a gwyn yn gweithio’n wych.
“Mae’n canolbwyntio ar y teulu, ei bentref, ac ar y pethau bob dydd y mae’n eu gweld o’i gwmpas,” meddai Glyn Reider wedyn.
“Mae gwaith Thomas Mathias yn ysbrydoliaeth, ac yn denu pobl i edrych arno.”