Tafarn y Nag's Head a'r afon Cych
Mae hen chwedl wedi cael bywyd newydd wrth gael ei rhannu drosodd a throsodd gydag Eisteddfodwyr yn ystod nosweithiau cynta’r eisteddfod ym Moncath.
Yn nhafarn y Nag’s Head ym mhentre’ Abercych, mae’r hyn sy’n cael ei alw’n “llygoden fawr Abercych” wedi ei stwffio a’i gadw mewn cas gwydr.
Nid llygoden yw mewn gwirionedd, ond fe ddaeth yn enwog ar ol cael ei ddarganfod yn yr afon Cych tua’r flwyddyn 1951, a’i gario i’r dafarn a’i ladd gyda fforc, yn ol yr hanes.
Y gred ydi fod y math o afanc wedi dod o ogledd America yn wreiddiol, ac fe dyfodd y rhyfeddod o hynny.
Wrth i gannoedd o eisteddfodwyr heidio yno am fwyd yr wythnos hon, mae’r stori’n cael ei hail-adrodd, yn enwedig gan Lawrence Selby, un o’r trigolion sydd a’i lun yntau ar wal y dafarn, yn ddeg oed ac yn dal dwy ffured!