Rhai o'r teuluoedd yn rhoi tro ar ddawnsio step
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe fydd pedwar teulu, gydag o leia’ un o’r aelodau’n ddysgwr, yn cystadlu i ennill penwythnos teulu yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Mae’r gystadleuaeth wedi ei threfnu ar y cyd rhwng yr Urdd a Chanolfan Gymraeg i Oedolion Morgannwg. Y bwriad ydi rhoi sialensau i’r teuluoedd eu cyflawni ar y Maes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fyddan nhw’n gorfod dysgu dawnsio step ym mhabell Trac; troi eu llaw at ychydig o saethyddiaeth ym Mhentref Mistar Urdd; ateb cwestiynau mewn cwis adnabod y ser yn y Cwtsh; yn ogystal a chrwydro’r Maes yn tynnu lluniau o enwogion.

Mae’r teuluoedd yn dod o Gaerdydd, Pontypridd, Hengoed a Llanelli.