Dau o bobol ifanc y Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Am y tro cyntaf erioed eleni, mae fersiwn digidol o Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd wedi ei chreu.

Owain Dafydd, gwneuthurwr ffilm 24 oed o Sir Benfro. sy’n gyfrifol am greu’r DVD saith munud o hyd – ef oedd enillydd y wobr gynta’ yng Ngwyl Ffilmiau Ffresh yn 2010.

‘Cydweithredu’ ydi thema’r neges eleni, ac fe gafodd ei hysgrifennu gan 17 o bobol ifanc o Ysgol y Preseli ac Ysgol Bro Gwaun.

Mae’r neges ar gael mewn 22 o ieithoedd ar wefan yr Urdd, a’r ieithoedd hynny’n cynnwys Arabeg, Groeg ac Almaeneg. Fe fydd y neges yn cael ei pherfformio ar lwyfan y Pafiliwn am 2.15yp heddiw.