Y cyn-Brif Weinidog a Changhellor y Trysorlys, Gordon Brown, oedd y gwleidydd mwyaf anodd ei gyfweld, meddai Llywydd y Dydd a’r gohebydd gwleidyddol, Tomos Livingstone.
Ar y llaw arall, roedd Tony Blair yn rhwydd ac yn glen – nes i chi sylweddoli, ar ol munudau lawer o siarad, nad oedd wedi dweud dim byd pwysig, mewn gwirionedd.
“Ond, efallai mai un o’r straeon mwya’ doniol i mi eu gwneud oedd ar faes Eisteddfod yr Urdd,” meddai Tomos wedyn. “Fe gafodd cor o blant eu taflu mas oherwydd eu bod nhw wedi canu pennill yn yr iaith Swahili!
“Roedd e’n ddiwrnod bisar iawn,” meddai wedyn. “Roedd newyddiadurwyr y Daily Mail yn fy ffonio i, eisie gwybod mwy am y stori.”