Mae colli cyflenwad trydan yn broblem eto heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Ben bore heddiw, does dim trydan yng Nghaffi Mr Urdd, ymysg llefydd eraill ar dir Cilwendeg ger Boncath.

Ddydd Llun, fe fu’n rhaid cynnal y cyfarfod ar ddyfodol Eisteddfod yr Urdd, dan gadeiryddiaeth Nic Parry, yn y tywyllwch, wrth i Stiwdio 5 golli ei gyflenwad trydan.

Mae’r gwaith yn parhau i drio datrys y broblem.