Fy hoff ŵyl gomedi ar y blaned yw Gŵyl Gomedi Machynlleth. Ac nid dim ond oherwydd ei bod yng Nghymru, ac yn dathlu comedi Cymraeg yn ogystal â pherfformwyr gorau a mwyaf cyffrous y sîn Saesneg. Ond hefyd, gan ei bod yn annog comedi arbrofol, gwahanol.

A’r sioe orau yn yr ŵyl – yn fy marn bersonol i, wrth gwrs – yw Comedi’n Cyfieithu. Sioe Gymraeg, gyda’r digrifwyr yn cyfieithu ei gilydd i’r Saesneg.

Dyma ble mae’r stori’n dechrau.

Yn 2013, ro’n i newydd ymddangos ar S4C yn perfformio standyp am y tro cyntaf. O ganlyniad, cefais fynd i Fachynlleth i berfformio mewn chwe sioe Gymraeg.

Dyna oedd y syniad, beth bynnag. Roedd y realiti braidd yn wahanol. Bryd hynny, prin iawn oedd nifer y digrifwyr Cymraeg. Ar bob sioe Gymraeg, roedd un act di-Gymraeg yn perfformio’n Saesneg! Fel arall, doedd dim digon i lenwi’r sioe.

Ar ben hynny, dim ond hanner y sioeau oedd yn Gymraeg mewn gwirionedd. Roedd y dair arall yn cael eu marchnata fel sioeau “dwyieithog”. Ond sioeau Saesneg oedd y rhain ar y cyfan, gydag ambell linell o Gymraeg fan hyn a fan draw.

Oedd bai ar unrhyw un am hyn? Ddim mewn difri. Roedd y trefnwyr di-Gymraeg yn aruthrol o gefnogol i gomedi Cymraeg. Ac roedd y perfformwyr Cymraeg oedd yn helpu i ddod o hyd i berfformwyr yn gwneud eu gorau glas i ffeindio mwy i berfformio’n Gymraeg.

Ac felly dechreuodd yr ymgyrch i ddatblygu’r sîn Gymraeg.

Roedd llawer ohonom ni fel digrifwyr Cymraeg yn gwneud yr un peth. Os bydden ni’n gwneud gig Saesneg, ac yn cwrdd ag act oedd yn gallu siarad Cymraeg, bydden ni’n eu hannog i roi cynnig ar gomedi Cymraeg. Bydden ni’n cysylltu â’n gilydd – “hei, newydd weld act ffantastig i ti eu bwcio!”

Roedden ni hefyd yn rhoi cynnig ar fathau gwahanol o sioeau. Beth am sioeau un-person? Ac wrth gwrs, mae sioeau pobol fel Tudur Owen ac Elis James wedi bod yn llwyddiannus iawn ers hynny.

Beth am sioeau hanner-a-hanner? Dau act yn gwneud hanner awr yr un. Roedd hi’n llawer anoddach denu cynulleidfa i’r rhain. Pam, tybed? Dim syniad!

Mae gen i restr o hyd o bawb sy’n gwneud comedi yn Gymraeg. Da iawn oedd gweld pobol fel Sarah Breese ac Esyllt Sears, nid yn unig yn perfformio’n Gymraeg, ond hefyd yn gweithio i drefnu digwyddiadau a gigs Cymraeg. O flwyddyn i flwyddyn, roedd mwy o gigs Cymraeg, a mwy o amrywiaeth rhyngddyn nhw hefyd.

Sioeau 2024

Eleni, mae’r gigs Cymraeg yn cynnwys: sioe lawn gan Tudur Owen; sioe lawn gan Elis James; sioe i Mel Owen, Steffan Evans, Carwyn Blayney, a Jimmy Johnson; sioe i Beth Jones, Caryl Burke, Gethin Evans, Aled Richards; sioe blant; arddangosfa artistiaid S4C; a drama Parti Priodas gan Gruffudd Owen.

A ble mae fy enw i ar y rhestr hon, hmmm? Wel, fel bradwr, mae fy sioe lawn i yn un Saesneg

Ond…

Comedi’n Cyfieithu. Sioe orau’r penwythnos.

Wrth ddatblygu’r syniadau hyn, ac wrth i’r ddarpariaeth Gymraeg fynd o nerth i nerth, roedd un peth yn dal i fod ar fy meddwl i. Roedd un fantais – un yn unig – i’r hen system. Gyda thair sioe Saesneg, roedd cyfle i gynulleidfaoedd di-Gymraeg gael golwg ar y digrifwyr Cymraeg gorau. Trueni mawr colli hynny.

Felly, mewn cyfarfod â threfnwyr yr ŵyl, gofynnais y cwestiwn. Beth am ddarparu cyfieithydd mewn gig Cymraeg? Yna, gallai’r comedi fod yn Gymraeg ac yn Gymreig – gyda chyfle i ymwelwyr weld yr holl bobol gyffrous ar ein sîn ni.

A’r cwestiwn amlwg cyntaf yw – pwy fydd yn cyfieithu? Mae na ddigon o gyfieithwyr gwych allai wneud gwaith da. Ond mae na opsiwn mwy amlwg.

Cyfieithu oedd fy swydd gyntaf i. Rwy’n dal i wneud rhywfaint o gyfieithu ar y pryd – hynny yw, cyfieithu’n fyw. Dydw i ddim am golli’r gallu, felly rwy’n dal i gyfieithu cyfarfodydd a chyflwyniadau a darlithoedd ac achosion llys. Beth am i fi gyfieithu’r digrifwyr?

Gwneud gwaith y cyfieithydd mor anodd â phosib!

Ond! Tua 35 o ddigrifwyr Cymraeg sydd i’w cael. Bron pob un ohonyn nhw’n fy nabod i’n dda. A beth mae digrifwr yn ei wneud pan fydd Steffan Alun yn ceisio’u cyfieithu? Gwneud gwaith Steffan Alun mor anodd â phosib!

Bydden nhw’n gwneud jôcs amhosib eu cyfieithu. Jôcs dadleuol fydden i ddim EISIAU eu cyfieithu. Jôcs am ffeministiaeth neu hiliaeth sy’n hollol briodol i’r perfformwyr eu gwneud – ond sy’n ddi-chwaeth i mi eu hailadrodd. Rwy’n cofio Siôn Owens yn dynwared acenion amrywiol gogledd Cymru… Beth Jones yn dynwared anifeiliaid – sgil sydd ganddi hi, ond nid gen i… Steffan Evans a Carwyn Blayney yn adrodd jôcs mor gyflym fel ei bod hi’n amhosib eu cyfieithu heb golli geiriau… Esyllt Sears yn dechrau dadlau gyda fi yn ystod y set, ond heb roi amser i fi gyfieithu ac ymateb….

Yn ail hanner y sioe, rwy’n gofyn i ddigrifwyr gyfieithu ei gilydd. Rwy’n cofio Dan Thomas yn cyfieithu Caryl Burke… a Caryl yn dadlau gyda’r cyfieithiad! Siân Harries yn cyfieithu Elis James, ac yn herio rhai o’i straeon, ac yn rhannu ambell gyfrinach o’u cyfnod yn yr ysgol gyda’i gilydd… Tudur Owen yn cyfieithu Josh Elton, yn gwneud hwyl am ben y digrifwr o Abertawe am fod yn hwntw – tan i Josh ddechrau siarad am ei gefndir Iddewig, a herio Tudur i wneud hwyl am ben hynny…! A’r gorau erioed – Eleri Morgan yn cyfieithu Lorna Prichard. A Lorna’n fflyrtio gyda brawd Eleri yn y gynulleidfa! Eleri druan yn gorfod cyfieithu fflyrtio gyda’i brawd ei hun…

Mae pob sioe’n wahanol – does neb yn gwybod beth mae neb arall yn bwriadu’i wneud. Tybed sut fydd hi eleni? Gyda Gwion Clarke yn gwneud y sioe am y tro cyntaf, ac ymgais i gael seren gomedi o’r tu allan i Gymru’n rhan o’r sioe, bydd rhaid aros tan ddydd Sul i weld – yn fy marn bersonol i – sioe orau’r ŵyl.