Wel! Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau eu hadolygiad buddsoddi ar gyfer y flwyddyn, gan effeithio ar nifer fawr o sefydliadau.

Gall cyhoeddiadau fel hyn arwain at deimladau cryf iawn. Sut mae modd dadlau bod un sefydliad yn haeddu grant yn fwy nag un arall? Sut mae cymharu gwahanol fentrau mewn gwahanol feysydd creadigol?

Dim syniad gen i, gyda llaw. Gwneud comedi standyp ydw i. Nid celfyddyd yw standyp.

Dyna ddadl Cyngor Celfyddydau Lloegr, beth bynnag. Dyw standyp erioed wedi bod ymhlith y ffurfiau celf mae’r sefydliad hwnnw’n ei gefnogi, a’r tro diwethaf i mi eu gweld yn trafod y mater roedden nhw’n honni na fyddai’n bosib newid y polisi hwn.

Pam hynny, felly? Gofynnwch i unrhyw ddigrifwr ar hap, a mwy na thebyg y gwnawn nhw esbonio’n chwerw bod comedi fel hyn yn cael ei ystyried yn israddol – yn llawn rhegfeydd a phynciau dichwaeth. Nid fel celfyddyd go iawn.

Ond dyfalu mae’r digrifwyr hyn, hyd y gwela i. Dyw CCLl erioed wedi dweud y fath beth yn swyddogol.

Beth am Gyngor Celfyddydau Cymru, tybed? O chwilio ar y we, wnes i fethu dod o hyd i unrhyw ddatganiad ynghylch eu safbwynt ar gomedi standyp.

Does dim llawer iawn ohonon ni’n perfformio standyp yn Gymraeg. Mwy nag erioed o’r blaen, cofiwch – dros 30 erbyn hyn – ond nifer digon bychan ein bod ni’n siarad â’n gilydd yn gyson. Does neb ohonon ni erioed wedi gwneud cais i CCC am ariannu comedi (oni bai bod rhywun wedi gwneud yn dawel bach, wrth gwrs). A pham felly?

Mae gen i un theori. Mae noson standyp yn syml, yn rhad, ac yn boblogaidd. Gellir trefnu noson o ddigrifwyr proffesiynol, profiadol am £500 yn hawdd – a dyna’i gyd sydd angen yw ystafell, meicroffôn, a chynulleidfa. Ac mae cynulleidfaoedd yn weddol hawdd eu denu, gyda gwaith hyrwyddo cadarn. Mae standyp yn gyfarwydd i bobol bellach, gyda chynifer o ddigrifwyr enwog dros ben.

Rwy’n credu mai’r ddadl orau dros beidio ag ariannu standyp, felly, yw’r ffaith bod hi’n haws i nosweithiau standyp wneud digon o arian tocynnau i dalu costau. Os yw ariannu gig comedi yn golygu nad oes cyllid ar gael i noson farddoniaeth, onid yw hi’n well blaenoriaethu’r cyfrwng celf fydd yn ei chael hi anoddaf i wneud yr arian eu hunain?

Dyw hyn ddim bob amser yn wir, wrth gwrs. Yn ystod y cyfnodau clo, roedd hi’n anodd iawn i gigs comedi wneud digon o arian i gefnogi’r unigolion yn y diwydiant. Gyda thafarnau a chlybiau a theatrau ar gau, roedden ni’n lwcus os oedd digon o gigs arlein i wneud arian poced. Amhosib oedd ennill bywoliaeth drwy berfformio standyp bryd hynny.

Ond roedd polisi CCLl yr un fath. Sori – dydyn ni ddim yn gallu cefnogi standyp.

Rwy ar fin dweud rhywbeth fydd yn fy ngwneud yn amhoblogaidd tu hwnt gyda digrifwyr eraill.  Gobeithio na fyddan nhw’n darllen hwn. Ond … efallai mod i’n … cytuno? Yn cytuno mai’r penderfyniad cywir yw cefnogi pethau eraill ar draul standyp.

Hynny yw, mewn byd delfrydol, byddai digon o arian ar gael i ariannu’r cwbl. Os oes rhaid meddwl am gelf gydag ymenydd cyfrifydd – mae ariannu’r celfyddydau yn fuddsoddiad sydd bob amser yn gwneud elw. Yn hanes y wlad, ni fu cyfnod erioed lle na wnaeth y celfyddydau fwy o elw na’r arian a dderbyniwyd ganddynt. Y peth call, felly, i unrhyw economydd o unrhyw asgell wleidyddol – hyd yn oed rhywun sy’n casáu’r celfyddydau, o gerddoriaeth i ffilmiau, o opera i bodlediadau – yw eu hariannu nhw beth bynnag. Mae’r economi bob amser yn elwa pan fydd mwy’n cael ei wario ar y celfyddydau.

Yr unig reswm i dorri cyllid i’r celfyddau, felly, yw er egwyddor y peth. Torri er mwyn torri.  Does dim mantais wrthrychol.

Mae’r un peth yn wir am godi tâl am bresgripsiynau, neu ffioedd dysgu prifysgolion.  Mae costau gweinyddu’r taliadau a’r ffioedd hyn yn golygu ei bod hi’n rhatach i’r wlad gynnig y rhain am ddim.

Ond i rai, mae hynny’n teimlo’n anghywir yn reddfol. Ac mae’n bwysicach i’r rhai hyn wneud penderfyniadau sy’n teimlo’n gywir, yn hytrach na penderfyniadau gwirioneddol gywir.

Yn yr 80au, torrwyd arian i’r celfyddydau’n ddifrol gan lywodraeth y Ceidwadwyr yn San Steffan. Yn digwydd bod, ar yr un pryd, roedd comedi standyp yn mynd o nerth i nerth ar lawr gwlad. Yn sydyn, roedd theatrau’n ei chael hi’n anodd rhaglennu eu tymhorau, ac yn chwilio am bethau rhatach i’w bwcio. A beth sy’n rhatach nag un person â phen yn llawn jôcs?

Ers deugain mlynedd, felly, dyna rôl standyp ym murlun celfyddydol Prydain. Rhywbeth rhad, syml a phoblogaidd i lenwi’r bwlch sy’n cael ei adael ar ôl pan fydd y llywodraeth yn teimlo fel gwneud penderfyniad greddfol.

Un peth bach. Popeth rwy newydd ei ddweud?  Dyw hyn ddim yn wir o gwbl am standyp yn Gymraeg.

Achos, fel cymaint o ddiwylliant Cymreig, dyw hi DDIM mor hawdd i standyp Cymraeg wneud elw. Mae pob un ohonon ni sy’n perfformio standyp yn Gymraeg – pob UN ohonon ni – yn perfformio am arian isel dros ben er mwyn cefnogi comedi yn yr iaith. Ac anodd iawn yw denu cynulleidfa. Mae marchnata digwyddiadau Cymraeg yn anodd dros ben, a dyw proffil standyp ddim ar yr un lefel o gwbl â standyp Saesneg.

Ond gwaeth na hynny, dyw proffil standyp Cymraeg ddim ar yr un lefel â mathau eraill o adloniant hyd yn oed yn Gymraeg. Mae cefnogaeth gan y cyfryngau i ddramau a sioeau gêm ac adloniant ysgafn. Ond cymharwch faint o standyps sy’n ymddangos ar S4C o gymharu â faint o gantorion, actorion, cyflwynwyr.

Fy hun – rwy wedi cael mwy o waith cyflwyno ac actio yn Gymraeg na fel digrifwr. Pam? Yn Saesneg, rwy wedi perfformio chwe sioe lawn a’u cymryd ar daith, gan dderbyn cefnogaeth enfawr gan y diwydiant Saesneg. Ble mae’r diddordeb gan y diwydiant Cymraeg?

Felly efallai ei bod hi’n iawn i Gyngor Celfyddydau Lloegr adael i ddigrifwyr standyp wneud eu harian eu hunain. Ond os wnawn ni’r un peth yng Nghymru, cawn weld faint mwy o’n sîn fydd yn dewis gweithio’n bennaf yn Saesneg.