*** Gallai cynnwys y golofn hon, sy’n trafod ymddygiad rhywiol, beri pryder i rai darllenwyr ***


Mae’r byd comedi’n gallu bod yn fach iawn – pawb yn nabod pawb. Ac eto, mae’n gallu teimlo’n enfawr. Gyda phob digrifwr gwahanol yn creu eu gwaith eu hunain, anodd iawn yw gwybod am bopeth.

Ond weithiau, daw newyddion i hoelio sylw pawb yn y diwydiant ar unwaith.

Cefais neges y diwrnod cyn darlledu pennod arbennig Dispatches Channel 4 yn trafod y cyhuddiadau difrifol yn erbyn Russell Brand. Prin oedd y manylion bryd hynny, ac felly mi wnes i – a mwy neu lai pob digrifwr arall yn y wlad a thu hwnt – dreulio’r 24 awr cyn y rhaglen yn ceisio dyfalu beth fyddai’r cynnwys.

Roedd honiad mewn un adroddiad camarweiniol y byddai nifer fawr o ddigrifwyr yn cael eu trafod yn y rhaglen. Yn y pen draw, Russell Brand yn unig oedd testun y rhaglen – ond cyn cael gwybod hynny, roedd hi’n amser anodd iawn, a’r straeon yn enbyd, pob un ohonon ni’n poeni – beth os yw’r newyddion yn sioc i NI hyd yn oed?

Yn y rhaglen, eglurodd y digrifwr Daniel Sloss fod straeon am Russell Brand yn gyfarwydd iawn ar y sîn yng ngwledydd Prydain. Digon gwir – mae blynyddoedd bellach ers i mi glywed y sïon. Ac eto, mae gwahaniaeth mawr rhwng clywed rhyw hanner stori mewn gig, a chlywed manylion llawn yr honiadau yn y rhaglen.

Dydw i erioed wedi cwrdd â Russell Brand, ond doedd dim ots am hynny. Ers darlledu’r rhaglen, mae’r awyrgylch ymhlith digrifwyr ar-lein wedi bod yn drwm dros ben. Mewn grwpiau WhatsApp, mewn sgyrsiau ar Facebook, ac mewn nifer fawr o alwadau ffôn, roedd ymdeimlad o ddicter. Dyma lawer o ddigrifwyr yn rhannu eu straeon eu hunain – nid am Russell Brand, ond cyhuddiadau yn erbyn eraill yn y diwydiant. Cafodd rhai eu henwi, hyd yn oed – gydag o leiaf un digrifwr yn mynd i gael sgwrs gyda’r heddlu am gyhuddiad o flynyddoedd yn ôl.

Er gwaetha’r straeon torcalonnus, lleiafrif bach iawn yw’r digrifwyr sy’n manteisio ar eu statws i dorri’r gyfraith, neu i fanteisio ar ddigrifwyr neu staff iau neu lai profiadol. Ond nid straeon fel hyn yn unig gafodd eu rhannu. Daeth straeon am fwlio, am ymddygiad amhriodol, neu am jôcs anweddus (ac mae’n RHAID iddyn nhw fod yn llawer rhy bell i ddigrifwyr eu hystyried yn anweddus).

Ac yna dechreuodd y ffraeo; rhai yn amddiffyn eu hunain neu eu ffrindiau yn erbyn cyhuddiadau, rhai hyd yn oed yn bygwth ymateb yn gyfreithiol i honiadau. A llawer iawn o bobol yn ceisio dilyn yr hanesion fel pe taent yn gwylio opera sebon ar ôl wythnosau o beidio gwylio.

‘Er gwaetha’r cyfan, mae perfformio’n dal i fod yn brofiad gwych’

Ac yna, byddwn i’n mynd i gigs – ac yn gweld bod bywyd yn mynd yn ei flaen hefyd. Er gwaetha’r cyfan, mae perfformio’n dal i fod yn brofiad gwych, a fy nghyd-berfformwyr mor gefnogol ag erioed; mwy cefnogol, efallai, wrth i ni weithio i wella a bod yn fwy agored.

Rwy’n optimist. Rwy wedi gweld newid mawr yn y byd comedi ers dechrau’r mudiad #MeToo chwe mlynedd yn ôl. Bryd hynny, roedd pwyslais ar rannu straeon i amlygu pa mor gyffredin yw ymddygiad anweddus gan ddynion yn erbyn menywod. Roedd hynny’n gam hollbwysig i ddechrau newid y diwylliant – yr hawl i allu siarad am y peth.

Ers hynny, mae’r sgyrsiau hyn – ac ymgeisiau gwleidyddol – yn digwydd yn fwy cyson. Mantais i ddigrifwyr yw eu bod wedi arfer trafod materion anodd, dadleuol gydag eglurder ac agwedd bositif. Er bod llawer mwy i’w wneud, mae llawer iawn o waith wedi digwydd eisoes i wneud perfformio’n fwy diogel, ac i helpu digrifwyr i rannu straeon mewn ffordd ddefnyddiol a phroffesiynol, heb ofni colli gwaith neu golli statws.

Rwy’n gweld y gwahaniaeth gyda pherfformwyr newydd, yn enwedig rhai ifanc; ymdeimlad llawer cryfach o’r hyn sy’n annerbyniol, ac na ddylid gorfod brathu tafod a derbyn ymddygiad anweddus gan neb.

Mae trefnwyr nosweithiau comedi hefyd wedi newid er gwell. Mae’n fwy cyffredin erbyn hyn i hyrwyddwyr nodi yn eu negeseuon bod gan ddigrifwyr hawl i nodi os oes unrhyw un ar y bil yn peri gofid iddyn nhw. Mae modd symud pobol i nosweithiau gwahanol, neu ganslo gwaith yn llwyr.

Mae cwestiynau i’w hateb, wrth gwrs, am sut i sicrhau bod y mesurau hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion dilys yn unig. Prin yw’r digrifwyr all fforddio – neu hyd yn oed wynebu – mynd â rhywun i’r llys am achos enllib. Mae achos o’r fath yn ddrud iawn.

Diwydiant sy’n helpu’r sawl sy’n camymddwyn?

Yn 2020, ysgrifennais ar Twitter am y ffordd y gall y diwydiant comedi helpu pobol sy’n camymddwyn. Rwy’n gwybod am asiant ffoniodd gyn-gariad i ddigrifwr arobryn, i’w rhybuddio i beidio â chwyno am y ffaith bod y digrifwr yn trafod diwedd eu perthynas. Gwelodd hi’r sioe. Doedd hi ddim yn hapus am y cynnwys, ond doedd hi ddim yn teimlo bod modd iddi gwyno, heb beryglu ei gyrfa hi ei hun ym maes comedi.

Ar ôl ysgrifennu am y pwnc, derbyniais lythyr “darfod ac ymatal” gan ddigrifwr, yn mynnu bod rhaid i mi ddileu’r negeseuon ar Twitter, ac ymddiheuro iddo’n gyhoeddus.

Y peth rhyfeddaf am hyn oedd nad am y digrifwr yma ro’n i’n siarad! Ond ta waeth, bu raid i mi ffeindio rhywun i roi cyngor cyfreitihiol i mi – yn ystod cyfnod clo, lle ro’n i’n brin o arian beth bynnag gyda phob gig wedi dod i ben. Anwybyddu’r llythyr oedd y cyngor, a dyna wnes i – a’r peth nesa, cefais alwad ffôn gan yr heddlu! Cam nesaf y person oedd rhoi fy manylion i’r heddlu a gofyn iddyn nhw fy ngorfodi i ddileu’r negeseuon. (Doedd dim angen i mi wneud dim o’r fath. Derbyniodd yr heddlu nad o’n i wedi gwneud dim i dorri unrhyw gyfraith).

Ers hynny, rwy’n fwy gofalus am y pethau rwy’n eu dweud – ar-lein neu fel arall. Mae ’na ffordd i drafod problemau fel hyn – ac mae ffordd o fynd yn rhy bell, ac o fod mewn perygl.

O ystyried hyn, mae’n anodd dychmygu’r dewrder sydd ei angen ar y menywod wnaeth gytuno i rannu eu straeon â Dispatches. Gobeithio wir y bydd hyn yn gymorth i greu diwylliant lle na fydd pobol yn teimlo bod rhaid aros bron ugain mlynedd cyn mynd i’r afael â straeon fel hyn.