Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Mae’n gas gen i gyfaddef fod y rhestr yn faith – dw i’n euog iawn o ddarllen sawl llyfr ar yr un pryd. Ymhlith y pentwr ar hyn o bryd mae Glucose Revolution: The life-changing power of balancing your blood sugar, Jessie Inchauspé; Old Babes in the Wood, Margaret Atwood; a Drift gan Caryl Lewis. Dw i’n tueddu i ddarllen cyn cysgu fin nos ac felly dw i’n aml iawn mor gysglyd bryd hynny, dw i’n gorfod ailddarllen rhannau gan fy mod yn anghofio’r hyn dw i eisoes wedi’i ddarllen. Serch hynny, dw i newydd fwynhau darllen nofel arobryn Hallt gan Meleri Wyn James o glawr i glawr.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Does dim un llyfr wedi newid fy mywyd, dw i ddim yn meddwl, ond cefais flas mawr ar ddarllen hunangofiannau Non Parry, Paid â Bod Ofn, a Dod ’Nôl at fy Nghoed gan Carys Eleri. Roedd gonestrwydd yr ysgrifennu yn apelio’n fawr.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf

Dw i’n siŵr bod darllen The Curious Incident of the Dog in the Night-time gan Mark Haddon wedi cyfrannu at fy niddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Fe dreuliais ryw 14 blynedd fel Cydlynydd ADY.

Y llyfr sy’n hel llwch

Mae llawer o lyfrau’n hel llwch yn y stydi adre – mae’n gas gen i ddwstio!

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Mae llawer o’r rhain (does dim digon o oriau mewn diwrnod), ond mae Captain Corelli’s Mandolin gan Louis de Bernières gyda’r amlycaf, mae’n siŵr. Yn fy ugeiniau, roeddwn i’n hoff iawn o dreulio gwyliau haf ar ynysoedd yng ngwlad Groeg a dw i wrth fy modd â haul – efallai mai dyna’r apêl? Hynny a’r ffaith mai stori gariad yw hi yn y bôn, a’r neges fod cariad yn trechu erchylltra rhyfel. Bydd yn rhaid imi ei darllen yn fuan!

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Unrhyw un o gyfrolau barddoniaeth Dic Jones. Mae rhywbeth am ei eiriau sy’n fy swyno. Gallaf gofio gwrando arno’n darllen ei gerddi ar sawl achlysur – roedd dawn dweud hyfryd ganddo a llais rhwydd iawn gwrando arno. Dw i’n medru clywed ei lais wrth ddarllen ei gerddi.

Y llyfr sy wastad yn codi gwên

1001 Children’s Books You Must Read Before You Grow Up, golygwyd gan Julia Eccleshore. Trysorfa hyfryd o lyfrau plant dw i wrth fy modd yn pori drwyddi ac sydd wastad yn codi gwên ac, ar adegau, hiraeth. Mae’n rhyfedd sut mae rhywun weithiau’n cysylltu llyfrau â digwyddiadau cofiadwy mewn bywyd.

Llyfr i’w roi’n anrheg

The Art of Rest: How to Find Respite in the Modern Age gan Claudia Hammond neu Roar: Thirty Women. Thirty Stories gan Cecelia Ahern. Dw i ddim yn arbennig o dda am ymlacio ond, wrth fynd yn hŷn (ac yn gallach, gobeithio), dw i’n sylweddoli gwerth rhoi amser penodol i ymlacio, er nad yw hynny bob amser yn dod yn rhwydd. I fi, mae hi’n sgil sy’n rhaid ei hymarfer! Ar yr adegau prysur hynny mewn bywyd, pan fo darllen yn anodd, mae’r gyfrol o straeon byrion Roar yn help!

Fy mhleser (darllen) euog

Wn i ddim a ydw i’n teimlo’n euog am ddarllen unrhyw beth, ond efallai bod fy hoffter o thrillers fel trioleg wych The Girl with the Dragon Tattoo gan Stieg Larsson yn annisgwyl! Fe ymgollais yn llwyr yn y straeon hynny.

Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano

Er fy mod i’n teimlo’n nyrfys iawn am rannu Cyfres Celt y Ci gyda’r darllenwyr bach a’u teuluoedd (fe gychwynnais ar y gwaith o greu’r gyfres yn ystod y Cyfnod Clo cyntaf, ar adeg pan na feddyliais y byddai’r llyfrau’n gweld golau dydd, mewn gwirionedd), dw i’n falch iawn ohonyn nhw. Dw i’n gobeithio’u bod nhw’n llenwi bwlch yn y farchnad o ran llyfrau dysgu darllen Cymraeg i blant a’u teuluoedd. Dw i wedi eu hysgrifennu nhw hefyd fel adnoddau darllen deniadol a chyfoes y gall athrawon eu defnyddio mewn dosbarth. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Elin Crowley, Meinir Wyn Edwards a Richard Huw Pritchard am y cydweithio hyfryd wrth lywio’r gyfres drwy’r wasg.

RHIANNON WYN SALISBURY

Cafodd ei magu ym mhentref Llanfarian ger Aberystwyth, ac mae nawr yn byw yn y dref gydag Eurig ei gŵr, sy’n fardd adnabyddus, a Llew ei mab wyth oed byrlymus.

Mae wedi treulio 20 mlynedd ym myd addysg fel athrawes, Dirprwy Bennaeth a Chydlynydd ADY, ac ar hyn o bryd mae yn Athrawes Cefnogi’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Ceredigion. Mae newydd gyhoeddi pecyn o bum llyfr Cyfres Celt y CiCelt y Ci, Nos Da Fferm y Ffridd, Ifana’r Iâr, Glain y Gath, Helpu Glain y Gath.

Bydd Cyfres Celt y Ci yn cael ei lansio yn Ysgol Llanilar ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar 29 Medi 2023.