Mae cyn-chwaraewr rygbi gafodd ddamwain ddifrifol wedi dechrau hyfforddi ei dîm lleol a sylwebu ar y gamp.

Cwta ddwy flynedd yn ôl fe gollodd Ifan Phillips ei goes mewn damwain motobeic, ac mae rhaglen newydd ar S4C yn ei ddilyn wrth iddo gael coes brosthetig.

Cyn y ddamwain bu Ifan, sy’n dod o Grymych ond bellach yn byw yn Cross Hands, yn chwaraewr rygbi proffesiynol gyda’r Gweilch.

Mae’r gŵr 27 oed yn benderfynol o gynnal cysylltiad â’r byd rygbi, ac wrthi’n hyfforddi tîm cyntaf Crymych.