Mae’r byd comedi wedi rhoi teyrngedau i “un o’r goreuon pennaf” wedi marwolaeth Sean Lock yn 58 oed.

Bu farw’r comedïwr o gancr gartref wedi’i amgylchynu gan ei deulu, meddai datganiad gan ei asiant.

Yn ogystal â bod yn gapten ar gyfres 8 Out of 10 Cats, fe wnaeth Sean Lock ymddangos ar QI, The Last Leg, Have I Got News for You, a The Big Fat Quiz of the Year.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Jon Richardson, a oedd yn gapten ochr yn ochr â Sean Lock ar raglen 8 Out Of 10 Cats ac 8 Out Of 10 Cats Does Countdown, ei fod e’n “llais gwirioneddol unigryw”.

“Roeddwn i’n addoli Sean fel comedïwr ymhell cyn dod yn gomedïwr fy hun, ac ni wnaeth deng mlynedd yn gweithio ochr yn ochr ag e bylu hynny o gwbl,” meddai Jon Richardson ar Twitter.

“Meddwl comig anhygoel a llais gwirioneddol unigryw.”

“Dw i’n andros o drist dros ei deulu heddiw ac yn drist dros gomedi gan ein bod ni wedi colli un o’r goreuon pennaf.

“Byddaf yn ei fethu.”

“Un o’r dynion doniolaf”

Dywedodd y comedïwr Jason Manford ar Twitter ei fod e wedi tecstio Sean Lock “ychydig wythnosau” cyn ei farwolaeth heddiw (18 Awst).

“Dw i’n drist ofnadwy am hyn. Mae fy nghalon yn torri dros ei wraig a’i blant.

“Un o’r dynion doniolaf dw i erioed wedi gweithio â nhw, ac roeddwn i’n arfer caru gwneud iddo chwerthin bob yn hyn â hyn ar fy swydd deledu gyntaf iawn, 8 Out Of 10 Cats.

“Fe wnes i decstio fo ychydig wythnosau’n ôl, a nawr dw i mor falch mod i wedi gwneud.

“Os oes gennych chi ffrind nad ydych chi wedi siarad â nhw ers sbel, gyrrwch neges atyn nhw. Gallai fod am y tro olaf.”

“Llais comig gwych ac unigryw”

Roedd Sean Lock yn cyflwyno rhaglen TV Heaven, Telly Hell ar Channel 4, a dywedodd y sianel mewn teyrnged ei fod e’n rhan o “deulu C4” ac “wedi chwarae rôl anferth ar y sianel dros ddau ddegawd”.

“Dros bymtheg mlynedd yn cynhyrchu ‘8 Out Of 10 Cats’ fe wnaeth Sean Lock wneud i mi chwerthin gymaint ac mor aml,” meddai Richard Osman, a weithiodd gyda Sean Lock ar raglen banel 8 Out Of 10 Cats.

“Llais comig gwych ac unigryw. Cariad at ei deulu a’i ffrindiau niferus”.