Elin Fflur a Dafydd Du
Mae S4C wedi cyhoeddi rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru eleni gydag wyth cân yn mynd ymlaen i gystadlu am y wobr fawr.

Roedd dros 120 o ganeuon wedi ymgeisio eleni – dyma wyth o’r cyfansoddiadau sydd wedi eu dewis ar gyfer y rhestr fer:

Braf yw Cael Byw – Gai Toms a Philip Jones

Gwybod yn Well – Arwel Lloyd Owen

Cynnal y Fflam – Rhydian Pughe

Pan Mae’r Haul yn Codi – Aled Ellis-Davies

Cain – Nia Davies Williams a Sian Owen

Gorffen y Llun – Peter Jones a Rhys Iorwerth

Garth Celyn – Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris

Dim Ond Ffŵl sy’n Ffoi – Derfel Thomas a ‘Rocet’ Arwel Jones

Bydd y cyfansoddwyr yn gweithio gyda’r cynhyrchydd cerddoriaeth Meilir Gwynedd er mwyn paratoi eu cân ar gyfer y gystadleuaeth. Mae Meilir yn aelod o’r band Sibrydion.

“Dwi’n meddwl bod y panel wedi gwneud job dda o ddewis y rhestr fer ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o raglen sydd mor boblogaidd,” meddai Meilir, sy’n mwynhau’r her.

“Dwi’n ffeindio’r holl broses yn ddiddorol achos mae yna gwpwl o enwau yma sydd yn gigio ar y sîn roc Gymraeg yn gyson, ond hefyd rhai sydd yn cyfansoddi yn eu hamser eu hunain. Mae’n gyfle grêt iddyn nhw gael gweld bod eu gwaith nhw llawn cystal â phobl eraill.”

Un o aelodau’r rheithgor eleni yw’r gantores Heather Jones. Union ddeugain mlynedd yn ôl, yn 1972, fe ganodd Heather y gân fuddugol ‘Pan Ddaw’r Dydd’ a gyfansoddwyd gan Geraint Jarman.

Mae cyn enillydd arall yn ymuno â Heather ar y rheithgor, sef Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn. Fe ddaeth Ynyr i’r brig y llynedd gyda’r gân ‘Rhywun yn Rhywle’ yr oedd wedi ei chyfansoddi ar y cyd â Steve Balsamo, seren y sioe West End ‘Jesus Christ Superstar’.

Y ddau aelod arall o’r rheithgor yw’r gantores Lisa Jên Brown o’r band 9Bach a’r cyfansoddwr amryddawn Alun ‘Sbardun’ Huws.

Dywedodd Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Theledu Achlysurol S4C, “Rydym yn falch iawn gyda’r ymateb i’r gystadleuaeth eto eleni, a llongyfarchiadau i’r wyth sydd wedi eu dewis ar y rhestr fer.

“Hoffwn ddiolch i Meilir Gwynedd am ei gyfraniad i’r gystadleuaeth eleni ac rwy’n edrych ymlaen i glywed sut mae’r caneuon wedi datblgyu erbyn y gystadleuaeth. Ond, barn y gwylwyr a’r panel o feirniaid fydd yn cyfri ar y noson.”

Elin Fflur a Dafydd Du fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw ar S4C o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar nos Sul 4 Mawrth.

Mae cyfle i bleidleisio dros eich ffefryn yn ystod y rhaglen fyw. Y gân gyda’r cyfanswm mwyaf o bleidleisiau – sy’n gyfuniad o bleidlais y gwylwyr a phanel y rheithgor – fydd yn cipio’r brif wobr o £7,500, tlws Cân i Gymru a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ail safle, a £1,000 i’r drydedd.