Mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth lleol yng Nghymru fel rhan o becyn cymorth gwerth £18 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector diwylliant.
Erbyn hyn, mae cyfanswm o £401,551.39 o gyllid wedi ei roi i 22 o fusnesau cerddoriaeth i helpu’r diwydiant yn ystod yr heriau sy’n gysylltiedig â Covid-19.
“Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas
“Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen y mae y coronafeirws yn ei gael ar fywyd Cymru.”
Tra bod Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans, wedi dweud: “Mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw ar lawr gwlad yn hollbwysig i ddatblygiad cerddorion yng Nghymru.
“Mae’r hinsawdd bresennol wedi creu amgylchiadau heriol iawn i leoliadau, eu staff a’r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach.
“Crëwyd y gronfa hon i geisio ysgafnhau’r baich ariannol ar draws y diwydiant i helpu lleoliadau, stiwdios, gweithwyr llawrydd ac unrhyw un arall o fewn y diwydiant cerddoriaeth yr effeithiodd Covid-19 arnynt.”