Yfory (dydd Gwener Chwefror 7) bydd sengl a fideo cerddorol newydd Papur Wal “Meddwl Am Hi” yn dod allan ar Libertino records. Triawd, neu three piece ydi ‘r grŵp, gyda Ianto Gruffydd yn brif lais ac yn chwarae’r gitâr, Gwion Ifor ar y gitâr fas, a Guto Huws ar y drymiau.

Gyda Dydd Miwsig Cymru yfory (dydd Gwener) a detholiad o gigs wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos, bu Golwg360 yn sgwrsio gyda phrif ganwr a gitarydd Papur Wal, Ianto Gruffydd a’i holi ynghylch y sengl a’r fideo newydd.

“Mae’r fideo wedi ei ysbrydoli’n rhannol gan Pulp Fiction, yn benodol yr olygfa lle mae cymeriadau John Travolta ac Uma Thurman yn dawnsio yn y bwyty ’na,” eglura Ianto Gruffydd.

“Wedyn y syniad oedd gena ni mewn golwg oedd cael pawb yn dawnsio o flaen green screen ac wedyn bod penna ni’n popio i fyny pan oedd y focals yn dod mewn.”

“Ond gan bod ni ychydig yn brin o amser, ddaru ni fwy neu lai ddweud wrth Billy Bagilhole, sef y boi oedd yn cynhyrchu’r fideo i wneud be bynnag oedd o isio, ddim ond bod o’n sticio i’r syniad gwreiddiol – ac i feddwl mai dim ond wythnos gafodd o, dan ni’n reit chuffed efo’r fideo.”

“Gall pobl ddisgwyl mwy o’r sŵn yma gan Papur Wal”

Er mai cyfansoddi “Meddwl Am Hi fel cân “tounge-in-cheek” wnaeth Papur Wal, dywed Ianto Gruffydd y gall gwrandawyr Papur Wal ddod i “ddisgwyl mwy o’r sŵn yma” gan y band.

“Mae o’n fwy o sŵn 70au efo strwythur caneuon pop, lot o focals a harmoneiddio, math yna o beth.”

“A dwi’n meddwl y bydd o’r ochr yna ohono fo’n dod allan fwy ar yr albym hefyd.”

Mae’r band yn gobeithio rhyddhau albym erbyn mis Hydref ond “mae o’n work in progress, ac mae gena ni ryw fath deadline, ond dydi o ddim yn set in stone.”

Gigs, gigs a mwy o gigs

Papur Wal fydd yn cael y lle blaenaf wrth berfformio yng Nghlwb Ifor Bach ar Ddydd Miwsig Cymru nos Wener (Chwefror 7) ar drothwy cyfnod prysur i’r band.

“Y gig yma fydd gig mwyaf ni dwi’n meddwl oherwydd dwi ddim yn gweld ni fel headliners eto, ond mae Clwb Ifor Bach yn gweld Dydd Miwsig Cymru fel rheswm i roi cyfle i rywun arall, felly parch iddyn nhw am hynny.”

Wythnos wedyn bydd Papur Wal yn cefnogi MR yn y Galeri yng Nghaernarfon (dydd Gwener Chwefror 14) cyn perfformio yng Ngwobrau Selar yn Aberystwyth nos Sadwrn (Chwefror 15).

Os am glywed sengl y sengl newydd “Meddwl Am Hi”, dilynwch y ddolen isod.

https://www.facebook.com/watch/?v=492986031653885