Fe fydd Côr Ysgol Gerdd Ceredigion yn cystadlu heno (nos Sadwrn, Awst 3) am deitl Côr Eurovision 2019.
Maen nhw wedi teithio i Gothenburg yn Sweden i gystadlu yn erbyn corau gorau Ewrop, ar ôl dod i’r brig yng nghystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill.
Dyma’r ail gystadleuaeth o’r fath, yn dilyn y gyntaf yn Riga yn Latfia ddwy flynedd yn ôl, lle cipiodd Cymru’r ail wobr.
“Bydd hi’n dipyn o beth chwifio’r faner Gymreig ar lwyfan Eurovision yn Sweden,” meddai Marged Ioan, sy’n 18 oed ac wedi bod yn rhan o Ysgol Gerdd Ceredigion ers bron i ddegawd,
“Fydd dim byd yn matsio lan i’r profiad. Bydd cynrychioli Cymru yn deimlad arbennig.”
Ac mae Islwyn Evans, arweinydd y côr a arweiniodd Gôr Merched Ceredigion yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, yn dweud bod cael teithio i Gothenburg “yn ddigon o wobr yn ei hun”.
“Ni’n mynd yno i wneud ein gorau!” meddai.
“Mae’r merched yn egsaited bost, ac mae cael mynd i Gothenburg a chynrychioli’n gwlad yn ddigon o wobr yn ei hun. Mae’r holl brofiad yn hufen ar y gacen ar ôl yr anrhydedd o ennill teitl Côr Cymru 2019.
“Nid pawb sy’n cael dweud eu bod wedi cystadlu yn yr Eurovision ddwywaith.
“Mae e’n anrhydedd cael mynd unwaith, ond mae cael mynd nôl am yr eildro yn beth arall!”
Y gystadleuaeth a rhaglen y côr
Deg gwlad sy’n cystadlu i gyd, a’r beirniaid yw’r Americanwr Deke Sharon, tad a capella fodern a chyfarwyddwr cerdd, y cyfansoddwr ac arweinydd John Rutter a’r gyfansoddwraig Katarina Henryson o Sweden, sy’n aelod o’r band The Real Group.
Bydd pob côr yn perfformio rhaglen o bedair munud yr un yn ddigyfeiliant i ddechrau, a bydd tri chôr yn cael eu gwahodd i wneud perfformiad ychwanegol er mwyn dewis yr enillydd.
“Dwi wedi dewis rhaglen sy’n adlewyrchu ein cefndir Celtaidd ni,” meddai Islwyn Evans.
“Alaw o Iwerddon i ddechrau, Cúnla. I ddilyn, yr alaw Gymreig, Ar Lan y Môr. Yna, pe byddwn mor ffodus i ddychwelyd i berfformio eto i’r beirniaid, byddwn yn perfformio Yr Alwad gan Kizzy Crawford.
“I gwblhau’r cyfan, bydd pob côr yn ymuno ar ddiwedd y sioe i berfformio medli o ganeuon ABBA. Dwi’n siŵr bod pob côr yn edrych ymlaen yn fawr at hynny.”