Bydd band o Gaerdydd wnaeth rocio Glastonbury eleni, yn dod i Gaernarfon y penwythnos hwn.

Mae disgwyl i Buzzard Buzzard Buzzard berfformio yn Neuadd y Farchnad yfory (nos Sadwrn, Gorffennaf 13) yng nghwmni Kizzy Crawford, Kim Hon ac Eadyth.

Mae’r cyfan yn rhan o arlwy Gŵyl Arall, digwyddiad celfyddydol sy’n cael ei gynnal dros bedwar diwrnod mewn gwahanol leoliadau yn y dref.

Yn ôl y trefnwyr, mae’r ŵyl yn “mynd o nerth i nerth” bob blwyddyn, ac ar ei deuddegfed pen-blwydd mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gael, gan gynnwys sgyrsiau llenyddol, cerddoriaeth a hyd yn oed yoga.

“Mae’r digwyddiadau yn newid o flwyddyn i flwyddyn,” meddai Rhian George, sy’n aelod o’r pwyllgor trefnu, wrth golwg360.

“Rydyn ni’n trio newid y bobol sy’n cymryd rhan yn flynyddol a chael digwyddiadau gwahanol.”

Gŵyl “ddwyieithog”

Fe gychwynnodd yr ŵyl neithiwr, ac fe fydd yn para dros y tridiau nesaf gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau fel siop lyfrau Palas Print, Neuadd y Farchnad, Clwb Canol Dre a Thŷ Glyndŵr.

Mae’n “ŵyl ddwyieithog”, yn ôl Rhain George, gyda chyfle i ymwelwyr brofi digwyddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae disgwyl i tua 2,000 o bobol ymweld â Chaernarfon dros y penwythnos, a rhai o’r tu hwnt i Glawdd Offa yn eu plith.

“Mae gynnon ni bobol sy’n dod o Loegr yn flynyddol, ac mae’n bwysig sicrhau eu bod nhw hefyd yn gallu mwynhau’r ŵyl,” eglura Rhian George.

“Ac mae yna hefyd dwristiaid sy’n dod i Gaernarfon dros y penwythnos sydd ddim yn ymwybodol o Ŵyl Arall.

“Rydyn ni’n gallu eu cynnwys nhw yn y gweithgareddau hefyd.”