Bu farw’r newyddiadurwr, Gwilym Owen, yn 87 oed.
Y pennaf brociwr a phryfociwr o Lannerch-y-medd ym Môn oedd yr unig un i fod yn bennaeth ar wasanaethau newyddion y BBC ac HTV yng Nghymru, ac fe fu’n golofnydd wythnosol i bapur Y Cymro ac i gylchgrawn Golwg.
Er iddo ddechrau ei fywyd gwaith yn drefnydd gweithgareddau pobol ifanc yn yr hen Sir Gaernarfon, yn ddirprwy i I B Griffith, ac er iddo ddisgleirio hefyd yn reffarî pêl-droed, fe ddechreuodd ohebu i’r hen TWW yn y 1960au.
Fe gafodd gyfnod llewyrchus yn gynhyrchydd rhaglen ddyddiol Y Dydd, gan roi’r cyfle cyntaf i gyfranwyr fel Dafydd Iwan gyfansoddi caneuon amserol a heriol.
Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o bobol yn ei gofio’n fwy diweddar yn gyflwynydd rhaglen Wythnos Gwilym Owen bob dydd Llun ar Radio Cymru, lle’r oedd yn rhoi ei athroniaeth o “ddiddanu ac addysgu” ar waith, yn holi’n galed, yn codi gwrychyn, ac yn herio ei westeion.
Er hynny – neu efallai o’i herwydd – roedd yn brolio na wrthododd neb erioed ag ymddangos ar ei raglen.
Ar Orffennaf 1, 1969, diwrnod arwisgo Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, fu dim rhaid i Gwilym Owen fynd yno i ohebu. Roedd hynny, meddai, am fod dau o ddynion ifanc wedi cael eu cyflyrru i osod bom yn Abergele – ac i’r bom honno ffrwydro cyn pryd ar noswyl y digwyddiad brenhinol, a’u lladd. Gweithred y disgrifiodd y newyddiadurwr hi fel “gwastraff”.