Y pianydd a’r cerddor Blues enwog, Jools Holland, fydd yn agor yr arlwy yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd y digwyddiad rhyngwladol yn para wythnos ym mis Gorffennaf, ac mae disgwyl i tua 4,000 o berfformwyr a 50,000 o ymwelwyr dyrru i’r dref fechan yn Sir Ddinbych.
Yn cychwyn yr wythnos ar Orffennaf 1 mae Jools Holland, Is-Lywydd yr Eisteddfod, a’i fand, The Rythm and Blues Orchestra, mewn cyngerdd arbennig yn y Pafiliwn Brenhinol.
Hefyd bydd yna berfformiadau gan gerddorion byd enwog, gan gynnwys y tenor, Rolando Villazón, y band salsa, pop a fflamenco, Gipsy King, a’r band Celtaidd, MABON.
“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod yr ŵyl eleni yn cwmpasu gwahanol genres a chenedlaethau, gan groesi ffiniau oedran, diwylliannau a chredoau,” meddai Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Edward-Rhys Harry.
“Yn wir, mae yna rywbeth i bawb.”
Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 1 a 7.