Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dadorchuddio’r Goron a’r Gadair a fydd yn cael eu cyflwyno i brifeirdd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Cafodd y seremoni ddadorchuddio ei chynnal yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst neithiwr (dydd Iau, Mehefin 13), nid yn bell o leoliad y brifwyl ar ddechrau mis Awst.

Cafodd dylunwyr y ddwy wobr eu hysbrydoli gan nodweddion ardal Dyffryn Conwy wrth greu eu gweithiau.

Y Goron

Mae’r Goron, sydd wedi ei noddi gan y gymdeithas dai Grŵp Cynefin, wedi ei dylunio a’i chreu gan  Angela Evans, gemydd o Gaernarfon.

Dyma Goron gyda thair haen o amlinellau metel yn creu delwedd sy’n gysylltiedig ag egwyddorion sylfaenol Grŵp Cynefin.

Yn yr haen gyntaf, mae modd gweld siapau o dai sy’n symbol o gartrefi unigolion a theuluoedd yr ardal.

Yn ail haen y Goron mae’r trionglau fel toeau’r tai, ac yn cynrychioli cynaliadwyedd yr ardal, tra bo’r bêl gopr ar ei phen wedi tarddu o hen fwynfeydd copr y Gogarth ger Llandudno.

Mae’r drydedd haen wedyn wedi ei hysbrydoli gan ddyffryn gwledig ac arfordir poblog Sir Conwy, gyda’r lliwiau’n efelychu brand Grŵp Cynefin ei hun.

Y Gadair

Cafodd y Gadair ei chreu gan ferch ifanc o Ddyffryn Conwy, Gwenan Jones, a’i noddi gan ganghennau Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn yr hen Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych.

Dywed y dylunydd mai Afon Conwy a diwydiannau’r sir yw prif ysbrydoliaeth ei gwaith.

“Yr afon yw asgwrn cefn y sir, yn llifo o’i tharddle yn Llyn Conwy ar fynydd Migneint i’r aber yng Nghonwy, ac fe’i gwelir yn rhedeg i lawr y ddwy ffon fugail sy’n ffurfio ochrau’r Gadair,” meddai Gwenan Jones.

“Mae siâp y ffon yn adlewyrchu cefndir amaethyddol y sir, a’r afon yn llifo’n frown er mwyn adlewyrchu mawndir yr ardal.”

Mae’r Gadair hefyd yn cynnwys gwely llechen o chwarel Cwm Penmachno, a hwnnw wedi ei fframio gan haenau o gopr. Mae’r ysgrifen a’r dyddiad hefyd wedi eu gosod mewn copr.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn cael ei chynnal yn ardal Llanrwst rhwng Awst 3 a 10.