Mae enwau’r artistiaid a fydd yn rhan o brosiect Gorwelion eleni wedi cael eu cyhoeddi.
Prif ddiben y prosiect blynyddol, sy’n cael ei gydlynu gan BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru, yw cefnogi cerddoriaeth annibynnol, gyfoes o Gymru.
Ymhlith y deuddeg eleni mae Gwilym, enillydd pump o wobrau’r Selar, Y Cledrau a Gwilym.
Cawson nhw eu dewis gan arbenigwyr cerddorol, o gynhyrchwyr radio i drefnwyr gwyliau ac academyddion cerddorol.
Bydd yr artistiaid yn cael cydweithio â Bethan Elfyn i hybu eu cerddoriaeth ac i godi eu proffil.
Mae’r arlunydd Cadi Lane wedi cael ei chomisiynu i greu gweithiau celf o’r holl artistiaid i’w harddangos uwchlaw Stryd Womanby.
“Mae’n fraint enfawr cael datgelu pa artistiaid sy’n cael bod yn rhan o’r prosiect eleni,” meddai Bethan Elfyn.
“Mae’r rhestr yn cynnwys pobl greadigol eithriadol dalentog, sy’n cynhyrchu cerddoriaeth drawiadol ar draws amrywiaeth o genres. Rydyn ni’n derbyn cannoedd o geisiadau bob blwyddyn ac mae bob amser yn anodd iawn dewis 12 yn unig, ond mae’n deg dweud bod hon yn oes aur i gerddoriaeth Gymreig ar y funud.”
‘Cyfnod cyffrous iawn’
Yn ôl Huw Stephens, y cyflwynydd radio, mae’n “gyfnod cyffrous iawn” i gerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Mae Boy Azooga er enghraifft yn chwarae mewn gŵyl gyda Bob Dylan a Neil Young. Ac mae Alffa, y band roc o ogledd Cymru, oedd yn rhan o Gorwelion llynedd sy’n gyfrifol am ysgrifennu ‘Gwenwyn’, sef y gân Gymraeg cyntaf i gael mwy na 3 miliwn o wrandawyr ar Spotify.
“Mae hwn yn destament i bobl ar draws y byd sydd ddim yn unig yn gwrando ar gerddoriaeth sy’n dod o Gymru, ond pobl sy’n mynd allan o’i ffordd i’w ddarganfod.
“Mae pethau cyffrous i ddod o ran cerddoriaeth yng Nghymru ac rwy’n siŵr y bydd y 12 trac Gorwelion yn cyrraedd rhestrau chwarae pobl cyn diwedd y flwyddyn. Bydda’i yn sicr yn chwarae fy ffefrynnau i ar y radio.”
‘Tradoddiad diwylliannol Cymru’
“Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o draddodiad diwylliannol Cymru ers cenedlaethau,” meddai Lisa Matthews o Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’n lle i bobl o bob cefndir gysylltu, creu a bod yn artistig mewn gofod cydweithredol. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl greadigol yng Nghymru’n cael cefnogaeth, arbenigedd, cyfleoedd a llwyfannau i lwyddo. Am y rheswm yma, rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Gorwelion a’r artistiaid sy’n dod drwy’r prosiect.”
Dyma’r rhestr yn llawn:
- Codewalkers
- Darren Eedens & the Slim Pickin’s
- Endaf
- Esther
- Eve Goodman
- Gwilym
- HANA2k
- Jack Perrett
- Kidsmoke
- Rosehip Teahouse
- SERA
- Y Cledrau