Mae llu o raglenni teledu a radio Cymraeg a Chymry Cymraeg wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.
Bydd yr ŵyl, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, yn cael ei chynnal yn Aviemore yn yr Alban rhwng Mehefin 4-6.
Enwebiadau teledu
Yn y categori Rhaglenni Plant, fe fydd Mabinogi-ogi a Prosiect Z, dwy raglen Stwnsh, yn herio’i gilydd.
Bydd cyfres Elis James, Cic Lan yr Archif (Alffa) yn herio O’r diwedd 2017 (Boom Cymru), rhaglen ddychanol am y flwyddyn aeth heibio, am wobr y Gyfres Gomedi Orau.
Mae’r gyfres boblogaidd Un Bore Mercher (Vox Pictures) wedi’i henwebu ar gyfer gwobr y Gyfres Ddrama Orau.
Tra bod FFIT Cymru (Cwmni Da) wedi’i henwebu yn y categori Adloniant, mae Chdi, Fi ac IVF (Tinopolis) sy’n olrhain taith IVF Elin Fflur, yn cyrraedd rhestr fer y Gyfres Ffeithiol Orau.
Mae Helfa’r Heli gan Geraint Huw Reynolds wedi’i henwebu am wobr Drama Fer a Cwpan y Byd Bry: Sut i ddelio gyda’r Saeson (Hansh) wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Ffurf Fer.
Mae enwebiadau i Ar Frig y Don, sy’n olrhain hanes Llywelyn Williams yn colli ei goes, ac Ar Gefn y Ddraig, yn golygu bod gan Cwmni Da ddau enwebiad yn y categori Dogfen Chwaraeon.
Enwebiadau radio
Mae Huw Stephens wedi’i enwebu ar gyfer prif wobr y Cyflwynydd Radio Gorau, a Carl ac Alun wedi’u henwebu yn y categori Chwaraeon Radio.
Mae Welsh Whisperer a Gruff Rhys a’r Gerddorfa yn cystadlu am y wobr Cerddoriaeth Fyw ar Radio.
Ac yn y categori Dogfen Radio, mae Helyntion y Cymry, sy’n olrhain hanes Trafferthion Gogledd Iwerddon, yn cystadlu ag Wythnos Fi – Carys Eleri, sy’n trafod ei thaith feics hi a’i chwaer Nia Medi o Gaerdydd i Paris i godi arian at glefyd Motor Niwron yn dilyn marwolaeth eu tad.