Mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau cerdd yng Ngheredigion, wrth i’r Cyngor Sir fwriadu torri’r gyllideb o 68%.
Mae’r cyngor eisoes wedi dechrau’r broses ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol athrawon cerdd yn y sir.
Ond maen nhw’n cael eu cyhuddo o fethu â chynllunio dyfodol y gwasanaethau ar ôl y toriadau, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion.
Ymhlith yr ymholiad roedd cais am wybodaeth am nifer yr athrawon a fydd yn parhau i gael eu cyflogi, faint o blant fydd yn derbyn gwersi yn y dyfodol, a beth fydd cost y gwersi i rieni.
Ond does gan y cyngor ddim gwybodaeth i allu ateb y cwestiynau hyn.
Ail-ystyried
Mae’r Cyfeillion yn galw ar y cyngor i ail-ystyried y toriadau.
“Mae’n ymddangos fel petai Ceredigion wedi meddwl am swm o arian y maent am ei arbed, heb edrych fawr ddim ar sut y gall y Gwasanaeth Cerdd gael ei ddarparu gyda lleihad mor sylweddol mewn cyllid,” meddai Alan Wynn Jones ar eu rhan.
“Naill ai mae’r Cyngor yn anonest gyda rhieni a disgyblion ynglŷn â’i argymhellion, neu mae mewn dryswch difrifol ynghylch sut mae’n bwriadu cynnal y gwasanaeth pwysig hwn.
“Mae’n annerbyniol nad yw’r Cyngor, fe ymddengys, wedi ystyried sut y bydd toriadau i staff ac israddio swyddi yn effeithio ar ei allu i ddarparu gwersi, corau ac ensemblau, ac a fydd yn rhaid i blant deithio i wersi y tu allan i oriau ysgol ai peidio.
“Ry’n ni wedi gweld mewn nifer o siroedd eraill bod torri’r arian craidd hyd yr asgwrn yn peryglu bodolaeth unrhyw fath o wasanaeth cerdd. Mae tîm o athrawon cymwys ac ymroddedig ar lawr gwlad yn allweddol, yn enwedig mewn sir wledig fel Ceredigion. Dyw torri nawr a chynllunio wedyn ddim yn ffordd i redeg gwasanaeth.”