Mae’r byd cerdd dant wedi bod yn cofio’r ffermwr diwylliedig o’r Parc ger y Bala, Dan Puw, a fu farw yn 84 oed.
Roedd yn un o ffigyrau amlycaf y byd cerdd dant yng Nghymru, ac roedd wedi treulio ei oes yn hyfforddi cantorion yn ei ardal ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant.
Bu’n llywio parti Meibion Llywarch ers ei sefydlu yn 1987, ynghyd ag arwain Aelwyd yr Urdd yn lleol am 15 mlynedd.
Yn 2017 cafodd ei anrhydeddu â Medal Coffa Syr T H Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad i’r ardal leol, ac am ei waith gyda phobol ifanc.
Derbyniodd Fedal Gee yn yr un flwyddyn hefyd, a hynny am ei wasanaeth i’r Ysgol Sul.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Dan Puw, Dyn y Parc, yn 2006.
Cofio’r gwerinwr
Yn ôl Arfon Williams, un o aelodau Meibion Llywarch, mae’n cofio rhyfeddu at ei “ddawn naturiol werinol” wrth ddehongli caneuon a cherddoriaeth.
“Roedd yr ymarferion nid yn unig ar gyfer dysgu caneuon, ond roedd yna wersi hanes lleol yn dod i mewn hefyd,” meddai Arfon Williams wrth golwg360.
“Roedd ganddo gymaint o straeon difyr i’w dweud. Roedd yr ymarferion yn wers hanes yn niwylliant yr ardal.
“Doedd yna ddim ffws na ffwdan iddo fo. Roeddech chi’n cael beth roeddech chi’n ei weld.”
Mae’r gantores werin, Gwenan Gibbard, yn cofio Dan Puw fel “cymeriad annwyl, hynaws ac yn llawn hiwmor, a’r hiwmor smala hwnnw yn goleuo unrhyw bwyllgor.
“Roedd yn un o’r hen do o gerdd dantwyr a’i gyfraniad i’w ardal ac yn genedlaethol yn aruthrol,” meddai.
“Bydd colled fawr ar ei ôl.”