Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Côr Feistr Colin Jones – ffigwr adnabyddus yn hanes cerddoriaeth Cymru, a fu farw ddydd Gwener (Chwefror 15) yn 83 oed.
Cafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam ac fe ddangosodd ei ddawn gerddorol o oedran cynnar iawn.
Yn chwech oed, fe ddaeth yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o gystadlaethau piano – gan gynnwys buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 11 oed.
Tair blynedd yn ddiweddarach, yn 14 oed, fe enillodd gystadleuaeth piano agored yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Llanelli 1962
Pan yn 21 oed roedd Colin Jones yn gyfeilydd ar Gôr Dynion Rhos, ac wedi sefydlu ei hun yn Gyfarwyddwr Cerddorol.
Daeth ei lwyddiant mwyaf yn cyfeilio 130 o leisiau Côr Dynion Rhos yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ym 1962.
Fe greodd hanes wrth gipio safle cyntaf y flwyddyn honno oddi ar gorau Orffews Treforys a Threorci a oedd wedi dominyddu’r gystadleuaeth.
Roedd 400 o bobol Rhosllannerchrugog wedi teithio i Lanelli i ddathlu’r fuddugoliaeth.
“Athrylith o ddyn”
Ar ôl gadael Côr Dynion Rhos yn 1987 – fe ddechreuodd weithio gyda ffigurau enwocaf ym myd canu Cymru gan gynnwys Syr Geraint Evans, Stuart Burrows a Bryn Terfel.
Yn dilyn blynyddoedd o lwyddiannau di ddiwedd, fe sefydlodd ei gôr ei hun yn 1992 o dan yr enw Cantorion Colin Jones.
Aeth y côr i berfformio cyn belled ag Awstralia, Washington DC, Los Angeles, Singapore a’r Eidal.
Yn ôl Arwyn Roberts, cyfeilydd ac aelod gwreiddiol o’r côr hwnnw, roedd Colin Jones yn “athrylith o ddyn.”
“Roedd o mor amryddawn ac roedd cerddoriaeth yn ei waed o. Roedd o’n ddyn modest,” meddai wrth golwg360.
“Doedd o byth yn ysgwyd ei freichiau’n fawr wrth gyfeilio, ond yn gallu dangos be oedd o eisio, ac yn gwneud hynny mewn ffordd mor syml.”
Ar ôl cyfnod hir a llwyddiannus fel sylfaenydd y côr, roedd Colin Jones wedi ymddeol ym mis Tachwedd 2008. Côr Gogledd Cymru yw’r enw ar y côr hwnnw erbyn hyn. Dychwelodd yn 2015, gan gyfeilio i’w gôr newydd – Corws Colin Jones.
“Fydd ‘na neb yn debyg i Colin,” ychwanegodd Arwyn Jones.