Mae cylchgrawn Y Selar wedi amddiffyn y diffyg amrywiaeth ymhlith enillwyr y gwobrau dros y penwythnos, gan ddweud fod y bleidlais yn un gyhoeddus.
Roedd y nosweithiau’n llwyddiant ysgubol i’r trefnwyr, gyda channoedd o bobol yn y ddwy noson.
Ond mae rhai yn cwyno am ddiffyg merched ymhlith yr enillwyr, prinder grwpiau gwerin cyfoes ar y llwyfan a’r ffaith nad oes yna’r un enillydd ymhellach i’r de na Dolgellau.
Dim un artist mwy deheuol na Dolgellau wedi ennill gwobr @Y_Selar. Mewn cyfnod lle ma na artistiaid gwych, amrywiol ym mhob cwr o’r wlad, sut ma hynny’n digwydd? Demograffeg y pleidleiswyr / darllenwyr Selar? Jysd yn taro fi’n rhyfedd – ddim yn cal go ar yr enillwyr o gwbl.
— Iestyn Tyne (@iestyn_tyne) February 17, 2019
Doedd y Welsh Whisperer ddim yn y noson wobrwyo gan ei fod yn canu yn Y Bala, ond fe fu yntau hefyd yn holi am y system o ddewis enillwyr.
Sut mae’r ennillwyr yn cael eu dewis ar ôl i’r rhestrau fer cael eu creu o’r bleidlais cyhoeddus? A ie, da iawn pawb 👋.
— Welsh Whisperer (@WelshWhisperer) February 17, 2019
Aeth rhai mor bell â chwestiynu holl bwrpas gwobrwyo cerddorion, wrth i Ceri Rhys Matthews ddweud nad yw’n deall y cyswllt rhwng “gwobr a chelfyddyd”.
wy byth wedi deall y cysylltiad rhwnt gwobor a chelfyddyd. a wy bythe wedi ymddiried yn y sawl sy’n gwobrwyo…
— ceri rhys matthews (@yscolan) February 17, 2019
Amddiffynnodd Y Selar eu gwobrau ar Trydar gan esbonio fod y bleidlais derfynol yn un gyhoeddus ac y bu 1,500 o bleidleisiau. Aeth y trefnwyr yn eu blaenau i ddweud nad ydynt yn “cael ceiniog o arian cyhoeddus gyda llaw, rwbath rydan ni’n falch iawn ohono.”
A dydy Gwobrau’r Selar ddim yn cael ceiniog o arian cyhoeddus gyda llaw – rwbath rydan ni’n falch iawn ohono.
— Y Selar (@Y_Selar) February 17, 2019
Sicrhau amrywiaeth “yn her”
Un sy’n amddiffyn Y Selar yw Llio Heledd, un o drefnwyr gigs Tyrfe Tawe yn Abertawe, er ei bod yn dweud bod sicrhau “amrywiaeth yn bwysig”.
“Roeddwn i yn noson Selar nos Sadwrn ac roedd hi’n hollol wych,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n biti fod unrhyw un yn gweld bai. Tydi trefnu nosweithiau, yn enwedig rhai mawr fel yna, ddim yn hawdd”.
Mae’r criw bach o drefnwyr newydd gyhoeddi rhestr gigs acwstig y flwyddyn, gyda 40% ohonyn nhw’n ferched, a’r artistiaid yn dod o bron bob cwr o Gymru.
Denodd y trefnwyr sylw y llynedd drwy gyhoeddi blwyddyn o gigs gan artistiaid benywaidd yn unig ar nos Wener olaf bob mis, gyda rhai yn cwestiynu ai “stynt” oedd hynny.
“O’r mis yma tan Fehefin, mae Lowri Evans, Elin Haf, Sioned Webb, Mair Tomos Ifans a’r grŵp gwerin o ferched, Beca gyda ni,” meddai Llio Heledd.
“Er mwyn cael barn mynychwyr, rydan ni’n eu holi yn ystod y gigs ac yn gofyn pwy fydden nhw’n hoffi eu gweld yn y nosweithiau acwstig.
“Rydan ni, fel gwirfoddolwyr yn trio creu awyrgylch lolfa acwstig lle mae grwpiau roc, hyd yn oed, yn cael gwrandawiad.”
Mae’r lein-yp eleni yn cynnwys y parti noson lawen Bois Y Frenni a’r consuriwr Paul Eds, gan sicrhau nosweithiau amrywiol drwy gydol y flwyddyn.
“Rydyn ni wedi trio cael grwpiau roc, cantorion acwstig, grwpiau gwerin, ac ati. Ond tydi hynny ddim yn hawdd a’i gadw yn ddiddorol bob mis yn her.”
Anodd denu cynulleidfa
Y gwahaniaeth, efallai, rhwng Nosweithiau’r Selar a gigs bach fel Tyrfe Tawe yn Abertawe, meddai, yw fod y gynulleidfa yn anoddach i’w denu.
“Mae’n nosweithiau ni am ddim ac mae’n bwysig cael pob math o beth ymlaen i drio cael pobl drwy’r drws.
“Mae unigolion lleol yn gwneud cyfraniadau i dalu am ein gigs ni, felly mae’n bwysig eu bod yn llwyddo.
“Ac rydan ni’n lwcus fod miloedd yn gwylio rhai o’n fideos ni ar gyfrif trydar Tyrfe Tawe, @cyrfe.”