Pan ganodd Lily, 14, o’r galon yn ystod ei gwrandawiad cyntaf o flaen y mentoriaid yng Nghaerdydd gan ddangos aeddfedrwydd arbennig yn ei llais, roedd ei sboner go iawn, Oliver, yno yn gefn iddi.
Yna aeth ymlaen i ganu ‘Ti yw’r Tân’ o flaen y gynulleidfa yn Abertawe gyda phŵer.
Ond, pe bai hi’n cael y cyfle, byddai wrth ei bodd yn canu deuawd gyda Beyonce – oherwydd, meddai, “mae hi’n phenomenal“.
Fe ddechreuodd berfformio yn ifanc iawn gydag Ysgol berfformio ‘Curtain Up’ yn chwe blwydd oed. Ers hynny mae hi wedi rhoi tro ar bob math o gystadlaethau yn ei hardal leol. “Ond dyma’r gystadleuaeth mwyaf dw i erioed wedi gwneud gan ei fod ar y teledu,” meddai.
Joio gweithio gyda Connie
“Gweithio gyda Connie yw uchafbwynt y gyfres wedi bod,” meddai Lily am ei mentor yn y gystadleuaeth. “Mae hi mor anhygoel ac wedi bod yn gymaint o gefnogaeth i mi.
“Mae wedi bod yn onest o’r dechrau, ac mae’r holl brofiad wedi bod yn gymaint o hwyl achos dw i’n gweithio gyda hi.
“Rydw i’n methu hyd yn oed dychmygu ennill y gystadleuaeth, mae’n wallgof hyd yn oed meddwl am gynrychioli Cymru ym Minsk!”