Fefydd ffeinal cystadleuaeth ‘Junior Eurovision’ Cymru yn cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno heno (nos Fawrth, Hydref 9).

Hwn yw’r tro cyntaf erioed i Gymru gymryd rhan yn y gystadleuaeth ble fydd yr unigolyn buddugol yn cael yr hawl i gystadlu yn y ffeinal yn Minsk, prifddinas Belarws, ym mis Tachwedd.

Mae’r Junior Eurovision Song Contest yn perthyn i deulu o gystadlaethau ‘Eurovision’ sy’n cael eu cynnal gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU). Rhan o’r gyfres o gystadlaethau ydi’r Eurovision Song Contest’ a’r ‘Eurovision Choir of the Year’, ble gwelwyd Côr Sir Gar yn cystadlu yn Latfia yn 2017.

Eleni, plant sy’n cael y cyfle i fynd i gynrychioli Cymru ar lwyfan Ewrop. Yn unol â rheolau’r gystadleuaeth, mae’r perfformwyr wedi bod yn rhan o gyfres pedair rhan ar S4C, sydd yn cyrraedd ei rownd derfynol heno (nos Fawrth, Hydref 9).

Mi fydd y gystadleuaeth yn torri record am y nifer o wledydd sy’n cystadlu eleni gyda Chymru a Kazakstan yno am y tro cyntaf, ac Azerbaijan a Ffrainc yn ail-ymuno. Mi fydd yna gynrychiolwyr cyfanswm o ugain o wledydd yn y rownd derfynol yn Belarws.