Eleni, fe fydd Cymru’n cael cystadlu ar ei phen ei hun yn yr Eurovision Ifanc am y tro cyntaf erioed.
Daw’r cyhoeddiad ar drothwy’r brif gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal yn Lisbon, Portiwgal ddydd Sadwrn (Mai 13), ac wrth i S4C chwilio am rywun i gynrychioli Cymru.
Fe fydd y gystadleuaeth ieuenctid yn gyfle i Gymro neu Gymraes naw i 14 oed deithio i Minsk yn Belarws i gystadlu o flaen miliynau o bobol o bob cwr o Ewrop a thu hwnt yn ddiweddarach eleni.
Y broses
Bydd clyweliadau’n cael eu cynnal ym mis Mehefin, a’r gystadleuaeth yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ar Dachwedd 25. Cyn y gystadleuaeth, fe fydd cyfres o dair rhaglen yn dangos y daith i ddod o hyd i gynrychiolydd i Gymru.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw nos Sul, Mehefin 3, am 10 o’r gloch.
Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gyfres, wrth i dri mentor – Connie Fisher, Tara Bethan a Stifyn Parri – helpu’r cantorion ifainc i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Byddan nhw’n perfformio yn Gymraeg, ond does dim rhaid iddyn nhw fod yn rhugl yn yr iaith.
Gall cystadleuwyr berfformio ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o grŵp o hyd at chwech o bobol.