Roedd syrpreis Nadoligaidd yn disgwyl cwsmeriaid Debenhams ac M&S yng Nghaerfyrddin ddoe wrth i aelodau Côr Seingar ddod ynghyd i berfformio’r gân boblogaidd ‘Haleliwia’.
Yn ymddangos yn y fideo roedd y canwr Neil Rosser, oedd yn cyfeilio ar y gitâr.
Côr cymysg yw Seingar, ac maen nhw’n ymarfer bob wythnos yn Festri Capel y Priordy yn y dref.
Nicki Roderick sy’n arwain y côr o 35 o bobol a gafodd ei sefydlu yn 2004.
Haleliwia
Addasiad o glasur Leonard Cohen, Hallelujah yw Haleliwia, ac fe ddaeth yn boblogaidd ar ôl i Brigyn ei recordio – yr unig fersiwn hyd yma sydd wedi cael caniatâd i’w chyfieithu i iaith arall.
Cafodd ei recordio gan Brigyn yn 2005 a’i chyhoeddi dair blynedd yn ddiweddarach gyda sêl bendith y canwr gwreiddiol.
Mae’r fersiwn Saesneg hefyd wedi’i phoblogeiddio drwy’r ffilm Shrek, pan gafodd ei pherfformio gan y Cymro John Cale.
Cafodd ei pherfformio hefyd gan Gôr Glanaethwy ar raglen Britain’s Got Talent yn 2015.