Mae cyfansoddi opera wreiddiol Gymraeg wedi bod yn uchelgais oes i ddarlledwr o Fôn.

Ac yn ôl Gareth Glyn mae neges yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd, sydd wedi’i seilio ar nofel Islwyn Ffowc Elis, yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi yn yr 1950au.

“Prif neges y nofel a phrif neges yr opera ydy os yr ydach chi eisiau dyfodol gwell mae’n rhaid ichi ymgyrchu amdano fo,” meddai wrth golwg360.

‘Rhybudd reit o’r cychwyn’

Mae’n drigain mlynedd ers i Islwyn Ffowc Elis gyhoeddi’r nofel yn 1957 yn rhan o faniffesto Plaid Cymru lle mae’n rhagweld dwy Gymru wahanol yn y dyfodol.

“Mae yna rybudd yn y nofel reit o’r cychwyn,” meddai gan esbonio fod y prif gymeriad, Ifan Powell, yn ymweld â Chymru “ogoneddus” ond bod yr awdur yn rhybuddio fod yna “ddrwg yn y caws”.

“Yn y Gymru ddrwg mae’r byd yn troi’n math o fyd peryglus,” meddai gan ddweud ei bod wedi “dirywio i fod yn Western England”.

Ac mae’r neges yn parhau’n berthnasol, meddai, gan gyfeirio at ddatblygiadau gwleidyddol diweddar o ganlyniad i “Brexit, Trump, Farage a phob math o bethau”.

‘Marwolaeth yr iaith’

Mi gafodd Gareth Glyn y syniad o gyfansoddi opera rhyw bum mlynedd yn ôl ar ôl rhoi’r gorau i gyflwyno’r Post Prynhawn ar Radio Cymru.

Ei fwriad gwreiddiol oedd gosod un o ddramâu ei dad, y Prifardd T Glynne Davies, ar opera ond penderfynodd nad oedd hynny’ gweddu cyn dewis Wythnos yng Nghymru Fydd – y darn o lenyddiaeth wnaeth y “mwyaf o argraff” erioed arno.

“Dw i’n cofio’r llinell – ‘Roeddwn i wedi gweld â’m llygaid fy hunan farwolaeth yr iaith Gymraeg’. Mae’n llinell ysgytwol.”