Mae tenor o ogledd Ceredigion yn ei hystyried hi’n fraint i bortreadu’r cymeriad ‘Ifan Powell’ yn yr opera Gymraeg newydd, Wythnos yng Nghymru Fydd.

Ar hyn o bryd mae Robyn Lyn a gweddill y cast yn rhoi trefn ar ymarferion munud olaf cyn y perfformiad agoriadol ym Mhontio, Bangor heno (Tachwedd 10).

“Mae’n gyffrous iawn, dw i ddim wedi gweithio ar opera Gymraeg newydd sbon o’r blaen,” meddai’r tenor wrth golwg360.

Mae’r opera’n glynu’n agos at y nofel, meddai, gan esbonio fod Ifan Powell yn teithio o’r 1950au i 2033 ac yn ôl gan weld dwy Gymru wahanol – “un dda ac un ddrwg.”

‘Twf’ yr opera Gymraeg

Ag yntau’n teithio i bob cwr o’r byd i berfformio mewn operâu, dywed Robyn Lyn ei fod yn falch o’r cyfle i weithio yn y Gymraeg.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hynod bwysig ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn y Gymraeg achos prin iawn yw’r nifer o operâu yn y Gymraeg sydd wedi bod.”

Mae’n cyfeirio at ddwy opera wreiddiol Gymraeg arall, sef Blodwen gan Joseph Parry yn 1878 ynghyd ag Y Tŵr gan Guto Puw a Gwyneth Glyn yn gynharach eleni.

“Mae’n braf i weld rhyw dwf a rhyw awydd i gyfansoddi opera newydd yn y Gymraeg,” meddai gan obeithio y bydd mwy yn mynd ati i gyfansoddi yn y dyfodol.