Y dyn gwyrdd
Mae yna rai llefydd y byddwch chi’n mynd iddyn nhw ac yn teimlo’n gartrefol ar unwaith. Dau gam i mewn i’r lle, ac mi fydd beichiau’r byd yn diflannu. Lle felly ydi Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mi allwch chi ddweud llawer am ŵyl o weld y swyddfa docynnau. Doedd yna neb yn cwyno, neb ar frys na neb yn harthio ar ei gilydd.

Ychydig gannoedd o lathenni wedyn, trwy jyngl o bebyll, ac roedd stad Glanusk yn agor o’ch blaen a’r dorf yn eistedd a gorweddian ar yr amffitheatr naturiol o amgylch y Prif Lwyfan, fel chwarel lechi liwgar.

Mae yna deimlad ffair i rannau o’r safle – nid am fod yno olwyn fawr ond oherwydd y stondinau bach hynod sydd yma ac acw a’r pebyll bwyd ecsotig – o fwyd y soukh i gyrris o Goa a chacenni cartref a Chai Wallah, lle mae pobol yn sugno ar bibelli mwg.


Rhan o'r ssafle
Syniadau i’r Eisteddfod

Mi fyddai’n llawer mwy anodd creu awyrgylch tebyg yn yr Eisteddfod, lle mae yna gystadlu a gweithgareddau mwy swyddogol, ond mi fyddai dod ag elfen o’r Dyn Gwyrdd i’r Brifwyl yn gweddnewid y Maes.

Y twtsh anffurfiol ydi’r peth … tydi popeth ddim yn sgwâr, yn syth ac unffurf ac mae yna gorneli bach tawel ac annisgwyl … anodd ei wneud, ond gwerth chweil. Does dim rhaid i bopeth fod yn soled a sylweddol – mae’r ysgafn a’r meddal a’r symudol weithiau’n llawer gwell.

Yn sicr, mi fyddai’n werth mabwysiadu’r cae plant –Cenedlaethau’r Dyfodol – lle mae yna bob math o weithgareddau y tu ôl i ffens fach liwgar.

Ac, wrth gwrs, mi ddylai’r Eisteddfod ffeindio maes bob blwyddyn sydd mewn lle mor brydferth â Dyffryn Wysg yng nghysgod y Mynydd Du.

Y wlad sy’n rhoi teimlad Cymreig i’r ŵyl ond mae yna ymgais o ddifri’ i gynnwys y Gymraeg hefyd, gyda nifer o artistiaid Cymraeg a fersiwn cwbl Gymraeg o raglen y penwythnos. Gwers i wyliau eraill fan’na – Y Gelli a Jazz Aberhonddu, er enghraifft.

Ac o sôn am artistiaid … mae yna gerddoriaeth hefyd …


Y prif lwyfan

Y gerddoriaeth

Dal diwedd y Gentle Good yn y Babell Mas Draw … anferth o babell dywyll yn y pen ucha’ gydag un ochr wedi’i hagor.

Roedd Gareth Bonello a’i gerddorion yn cael cymeradwyaeth frwd gyda’u sain swynol, gyfoethog yn gefndir i ganeuon hardd.


Gentle Good
Mi orffennodd efo cân Gymraeg, Cysgod y Dur, am y gwaith sydd ger ei gartre’ yn ne Caerdydd. Roedd clindarddach peiriannau’n troi’n sain llawn … gwynt neu fôr falle … gyda fiolin, soddgrwth a banjo.

Mae yna ddogn go lew o fandiau Ewropeaidd hefyd. Treefight for Sunlight, er enghraifft. O Gopenhagen. Fel bandiau jazz Llychlyn, maen nhw’n dda am greu awygylch reit fesmeraidd … yn enwedig pan lwyddodd un o’r cerddorion – dyn – i ganu Wuthering Heights Kate Bush yn y falsetto gwreiddiol.

Ei lais ef oedd yn gwneud iddyn nhw swnio weithiau fel Queen hefyd ac, wrth iddyn nhw ganu, roedd swigod mawr yn cael eu gollwng o rwyd gan rywun, i hwylio ar draws yr awyr.

Ar lwyfan Tafarn y Dyn Gwyrdd yr oedd Y Niwl, y band offerynnol sŵn-glan-môr o ogledd Cymru. Mae’n rhan o’r safle sy’n defnyddio’r stad yn berffaith – un rhan o’r hen ardd furiog yn Ardd Einstein, sy’n dathlu rhyfeddodau gwyddoniaeth, y llall yn neuadd gyngerdd berffaith yn yr awyr iach.


Y Niwl
Byr a bywiog a di-enw ydi caneuon Y Niwl – “ddus us un  deg pedwar” meddai Alun Tanlan ac i mewn â nhw i’r alaw sydd bellach yn enwog ar Football Focus. Bas a drymiau cry’ a gitâr glir yn codi atgofion am y Beach Boys, y Shadows a hyd yn oed Morricone.

Rhuthro draw i’r Mas Draw i weld Wibidi, cyfuniad o rai o gerddorion gorau Tiger Bay, y Super Furry Animals a’r peth, gyda chymeriad bownsiog lliwgar, Rashid Omar, yn brif lais ac ysbrydoliaeth. Efo Suicide Baby a Some People, roedd y babell yn siglo … rhy bwerus  a thrwm falle i rai o dyrfa’r Dyn Gwyrdd … ond roedd yna sŵn reggae, ffync a roc yn y gymysgedd a’r chwarae’n dynn a chryf. Mae’r albwm cynt’ – Tigerbaby – ar y ffordd.

Er gwaetha’ argymhelliad hen hipi – pobol ifanc yn eu 20au a theuluoedd ifanc ydi mwyafrif y dorf, ond mae pawb yn cael eu derbyn – wnaeth Robyn Hitchcock ddim ohoni i fi, er ei fod o’r un genhedlaeth. Ambell gân iawn, a cherddorion da, ond personoliaeth llai cynnes na’r ŵyl. Cerddor cwlt, medden nhw … ac mae yna reswm am hynny.

Mae math arall o gerddoriaeth yn nodweddiadol o’r Dyn Gwyrdd. Stwff breuddwydiol, melodaidd, sy’n mynd â’r rhai sy’n cofio yn ôl i hipi-dod y 60au. Roedd yna bedair cerddor o Awstralia’n canu yn y gwyll ar Lwyfan y Dyn Gwyrdd – Emily Barker a The Red Clay Halo – gyda llinynnau’n gefndir. Y math o ganu gwerin modern meddylgar sy’n plesio mewn lle fel hyn.


Connor O'Brien ar y sgrin
A fersiwn pwerus o hynny oedd gan Villagers ar y prif lwyfan. “Dim ond yr ail dro i fi berfformio yng Nghymru,” meddai’r Gwyddel, Connor O’Brien, sy’n eu harwain. “Mae hynny’n wirion a ninnau drws nesa’.”

Mae yna angerdd yn ei ganu a’r geiriau’n bwerus, am drais ar y strydoedd ac, yn aml, am fethiant geiriau a theimladau. Caneuon gwerinaidd ydyn nhw, ond efo cyfeiliant pwerus sydd bron â throi’n anthemaidd ac yntau’n udo’i boen. Dim ffys, dim ond cerddorion da, o ddifri.

Sŵn gwerin mwy traddodiadol sydd i Bellowhead, ond efo ymyl rocaidd hefyd, a llwyth o offerynnau. Mae’r miloedd o flaen y prif lwyfan yn bownsio yn y tywyllwch a’r swigod mawr yn dal i hwylio ar draws yr awyr.

Gadewch i’r plant bychain

Mae rhai o’r plant ar eu traed o hyd; mae pawb yn gymysg yma. Rhai o’r rhai bach yn cysgu yn y trolis lygej, eraill wedi eu troi’n llwyfannau neu drampolîn. Dim ond un a welais i’n crio; chlywais i’r un rhiant yn dweud y drefn.

Mae yna rai llefydd y byddwch chi ynddyn nhw am ychydig oriau ac mae’n teimlo fel eich bod wedi bod yno erioed. Mae’r Dyn Gwyrdd yn un o’r rheiny.


Nos da