Mae S4C yn cynnig modd arall o wylio rhaglenni’r Sianel wrth lansio fersiwn ap o S4C Clic ar gyfer yr iPad.
Daw’r ddarpariaeth ar gyfer yr iPad ar ôl lansio fersiwn o’r ap ar gyfer dyfeisiadau iPhone ac iPod touch ym mis Mehefin.
Mae’r ap dwyieithog, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, ar gael ar yr Apple App Store o heddiw ymlaen.
Bydd yr ap yn galluogi gwylwyr i wylio rhaglenni S4C yn fyw ac ar alw am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf gyda gwasanaeth Clic.
“Mae’r ymateb i ap S4C Clic ar gyfer yr iPhone a’r iPod touch wedi bod yn ffafriol iawn ers lansio ym mis Mehefin,” meddai Arshad Rasul, Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C.
“Lansio ap newydd ar gyfer yr iPad oedd y cam naturiol nesaf wrth i S4C ehangu ar ddarpariaeth gwasanaethau’r Sianel ym maes technoleg newydd.”
Clic yw safle we fwyaf poblogaidd S4C gyda dros 80,000 o ymweliadau’n fisol.