Mae’r albwm Ruins/Adfeilion wedi sicrhau’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig i The Gentle Good eleni.
Daeth pedwerydd albwm y band â nhw i frig y gystadleuaeth, ac fe dderbyniodd y prif leisydd Gareth Bonello y wobr mewn seremoni yn yr Hen Lyfrgell neithiwr.
Cafodd yr albwm ei gyhoeddi ar label Bubblewrap, ac fe gurodd weddill y rhestr fer o 11 o enwebeion oedd yn cynnwys Interior Design (HMS Morris), Bendith (Bendith), Set Fire to the Stars (Gruff Rhys) a Fossil Scale (Georgia Ruth).
Cafodd y wobr ei sefydlu saith mlynedd yn ôl gan John Rostron a’r DJ a chyflwynydd radio Huw Stephens.
Mae The Gentle Good yn ychwanegu eu henw at y rhestr o enillwyr sy’n cynnwys Gruff Rhys, Georgia Ruth, Gwenno a Meilyr Jones.
Enillwyr y gorffennol:
2010-11: Gruff Rhys – Hotel Shampoo
2011-12: Future of the Left – The Plot Against Common Sense
2012-13: Georgia Ruth – Week of Pines
2013-14: Joanna Gruesome – Weird Sister
2014-15: Gwenno – Y Dydd Olaf
2015-16: Meilyr Jones – 2013