Eamonn Campbell (Llun: barrysilverback trwy Commons Wikipedia)
Mae newyddiadurwr Cymraeg wedi bod yn talu teyrnged i Eamonn Campbell, aelod o’r band gwerin Gwyddelig, The Dubliners, sydd wedi marw yn 70 oed.
Ac mae Lyn Ebenezer yn cofio’r cerddor “gyda rhyw fop o wallt rhyfedd” fel “dyn hyfryd a oedd yn gitarydd arbennig”.
“Os rhwybeth, fe oedd yr hawsa i fynd ato i gael sgwrs,” meddai Lyn Ebenezer wrth golwg360. “Y tro cyntaf i fi gwrdd ag e, fe dda’th ata i … roedd yn deall mai Cymro oeddwn i, ac roedd e’n gofyn os oeddwn i’n nabod Grav – roedd pawb yn nabod Grav, wrth gwrs!
“Y noson fwyaf gawson ni,” meddai Lyn Ebenezer wedyn, “oedd pan oedd y Dubliners yng Nghaerdydd, a’u gwestai nhw oedd Shane McGowan o’r Pouges, ac rwy’n cofio’n iawn am Emyr Huws Jones a finne’n cael mynd i fewn i ryw westy ar gyrion Caerdydd… ac fe aeth hi’n sesh rhyfedda!
“Eamonn oedd y tancwr mwyaf ohonyn nhw, er bo pob un ohonyn nhw’n dipyn o adar!”
Bu farw Eamonn Campbell wedi afiechyd byr yn ei gartref yn Nulyn.
Gyrfa Eamonn Campbell
Fe ddechreuodd y cerddor, a aned yn Drogheda yng Nghweriniaeth Iwerddon, chwarae cerddoriaeth yn broffesiynol o’r 1960au ymlaen, ac fe ddaeth yn aelod llawn amser o’r Dubliners yn 1987, a hynny pan oedd y band yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth.
Roedd The Dubliners, a gafodd ei ffurfio yn 1962, yn allweddol mewn poblogeiddio cerddoriaeth gwerin yn Ewrop yn y 1960au, gydag un o’u caneuon, ‘Seven Drunken Nights’, a gafodd ei ryddhau yn 1967, yn cael ei gwahardd yng Ngweriniaeth Iwerddon am resymau crefyddol, ond yn cyrraedd siart yr 20 uchaf yng ngwledydd Prydain.
Fe ymddeolodd y Dubliners yn 2012, ond fe barhaodd rhai cyn-aelodau, gan gynnwys Eamonn Campbell, i chwarae fel aelod o The Dublin Legends.
Roedd Eamonn Campbell hefyd yn gynhyrchydd cerddoriaeth, ac fe fu’n gyfrifol am gynhyrchu holl albymiau’r Dubliners o 1987 ymlaen.
Yn wir, fe a awgrymodd i’r band yng nghanol y 1980au y dylen nhw gydweithio gyda’r band Gwyddelig arall, The Pouges, gan arwain at greu un o ganeuon enwocaf y band, ‘The Irish Rover’.