Cor Merched Sir Gar, gyda'r arweinydd Islwyn Evans Llun: Côr Cymru
Un o gorau’r arweinydd Islwyn Evans ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru neithiwr, sef Côr Merched Sir Gâr.
Daeth y côr i’r brig yn y rownd derfynol nos Sul, 9 Ebrill yn Aberystwyth a hynny ar ôl ennill categori’r côr ieuenctid gorau rai wythnosau’n ôl.
Fe fyddan nhw’n awr yn cael y cyfle i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017 yn Latfia, gydag S4C yn darlledu o’r gystadleuaeth ar Orffennaf 22 eleni.
‘Ar lwyfan Ewropeaidd’
Dyma’r tro cyntaf i Eurovision gynnig cystadleuaeth o’r fath a bydd y cyfansoddwr byd-enwog Eric Whitacre yn ei harwain, gyda’r cyfansoddwr John Rutter a’r soprano Elina Garanca ymhlith y beirniaid.
“Mae S4C yn hynod o falch o ddarlledu’r gystadleuaeth Eurovision yma ac o’r ffaith y bydd cynrychiolaeth o Gymru yno,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C.
“Mae’n gam naturiol yn esblygiad y gyfres boblogaidd Côr Cymru ac yn gyfle gwych i arddangos ein talentau corawl ar lwyfan Ewropeaidd.”
‘Adain Cân’
Y corau eraill i gyrraedd y ffeinal neithiwr oedd Côr Ieuenctid Môn a enillodd pleidlais y gwylwyr, Côr Meibion Machynlleth, Ysgol Gerdd Ceredigion a Côrdydd.
Côr Ysgol Pen Barras o Ruthun gipiodd teitl Côr Cynradd Cymru mewn cystadleuaeth arbennig nos Sadwrn.
Bu’r corau’n perfformio darn o’r enw ‘Adain Cân’ a gyfansoddwyd gan un o’r beirniaid, sef Christopher Tin o Galiffornia a’r geiriau gan Mererid Hopwood.