Mabon ap Gwynfor
Mae un o ymgyrchwyr dros gael rhaglen debyg i Newsnight i Gymru wedi croesawu “cam bach i’r cyfeiriad iawn” y BBC wrth greu fersiwn Saesneg o Pawb a’i Farn.
Ond mae Mabon ap Gwynfor yn dweud nad yw’r cyhoeddiad yn ddigon er mwyn tynnu sylw at newyddion yng Nghymru.
“Bydden i’n croesawu bod nhw’n datblygu’r rhaglen, cam bach i’r cyfeiriad iawn yw e,” meddai.
“Mae’r ffaith fod Cymru dim ond wedi cael £8.5 miliwn o arian newydd gyda’r BBC, o gymharu â beth mae’r Alban wedi cael ac o gymharu ag anghenion Cymru, mae’n dweud cyfrolau am y ffordd mae’r BBC a’r sefydliadau Llundeinig wedi trin ac yn trin Cymru…
“Ond wedi dweud hynny mae hwn yn gam i’r cyfeiriad iawn.”
Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd BBC Cymru y byddan nhw’n datblygu rhaglen tebyg i Question Time a Pawb a’i Farn yn Saesneg yng Nghymru.
Ymgyrch Newsnight Cymru i barhau
Er ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mabon ap Gwynfor y bydd yr ymgyrch i gael mwy o sylw at faterion y dydd a newyddion yng Nghymru yn parhau.
“Boed hynny ar raglenni fel Newsnight, Question Time, newyddion, materion cyfoes – beth bynnag yw e, mae eisiau tynnu mwy o sylw at ddigwyddiadau yng Nghymru,” meddai.