Llun: S4C
Mae’r corau fydd yn cystadlu yn rowndiau cynderfynol rhaglen Côr Cymru 2017 wedi eu cyhoeddi.

Bydd rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal yn Neuadd Fawr Prifysgol Aberystwyth ar Chwefror 18, gyda 17 côr yn cystadlu.

Bydd corau mewn cyfanswm o bum categori yn brwydro am le yn y rownd derfynol ar Ebrill 9, fydd yn fyw ar S4C gyda Morgan Jones a Heledd Cynwal yn cyflwyno.

Cafodd gystadleuaeth Côr Cymru S4C ei chynnal gyntaf yn 2003, ac eleni fydd yr wythfed gystadleuaeth.

“Mae ‘na gorau yn rowndiau cynderfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf eleni a’r hyn sy’n fwy calonogol fyth yw bod y corau’n dod o bob cwr o Gymru,” meddai Cynhyrchydd y gystadleuaeth o gwmni Rondo Media, Gwawr Owen.

Corau ieuenctid:

Coda o Ynys Môn

Côr Cytgan Clwyd

Côr Merched Sir Gâr

Côr y Cwm

Corau meibion:

Bois Ceredigion

Bois y Castell

Côr Meibion Machynlleth

John’s Boys

Corau plant:

Côr Iau Ieuenctid Môn

Côr Ieuenctid Môn

Côr y Cwm

Ysgol Gerdd Ceredigion

Côr merched:

Ysgol Gerdd Ceredigion

Corau Cymysg:

CF1

Côr ABC

Côr Dre

Côrdydd