Dewi Pws Llun: Dewi Wyn
Mae’r actor, bardd a cherddor Dewi Pws wedi lansio ‘Cân y Parêd’ yn Ysgol Cymerau Pwllheli heddiw.
Mi gyfansoddodd y cerddor y gân yn arbennig ar gyfer Parêd Dewi Sant Pwllheli sy’n cael ei gynnal eleni ar Chwefror 25.
Y gobaith yw y bydd holl blant yr ardal yn canu’r gân yn y parêd ac yn ystod ‘Stomp Dewi Sant’ sef cystadleuaeth lle fydd plant ysgolion yr ardal yn cystadlu i ennill cwpan ‘Clod y Parêd.’
“Fel un sydd wedi symud i fyw i Ben Llŷn, rwy’n hynod o falch o allu cyfrannu tuag at lwyddiant Parêd Dewi Sant Pwllheli,” meddai Dewi Pws.
“Gobeithiaf y bydd y gân yn ffordd effeithiol o gael plant yr ardal i weld gwerth yn y diwylliant a’r iaith Gymraeg sydd mor bwysig i’r rhan yma o Gymru.”
Tapas Llŷn
Mi fydd Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn a’i gŵr Tudur Phillips yn cyflwyno seremoni wobrwyo ‘Gwobrau Sêr Dewi Sant’ am y gwisgoedd gorau ar y diwrnod.
Hefyd bydd ‘Wythnos Tapas Llŷn’ yn cael ei chynnal ar y cyd â’r parêd, cyfnod pan fydd siopau yn cael eu hannog i fabwysiadu enwau Cymraeg ar eu cynnyrch.
Dywedodd Rhys Llewelyn, Cadeirydd Cymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli: “Un o fentrau’r pwyllgor ers 2014 oedd cyflwyno’r iaith drwy ein bwyd drwy ‘Dapas Llŷn’.
“Mae yna bwyslais wedi ei roi ar fabwysiadu enw Cymraeg yn unig i’r prydau bychain (sydd hefyd yn cynnwys cynnyrch lleol) gan geisio annog cwsmeriaid i ofyn am y pryd yn Gymraeg, a chael hwyl wrth wneud hynny.”