Meryl Streep, gyda'r actor Jean Dujardin, yn cipio Oscar yn 2012
Mae un actores ac un ffilm benodol wedi sicrhau y bydd gwobrau’r Oscars eleni yn arwyddocaol, wrth iddyn nhw osod cerrig milltir am y nifer fwyaf o enwebiadau.
Mae’r actores Meryl Streep, 67, wedi sicrhau mai hi yw’r cyntaf i gael ei henwebu am 20 o wobrau Oscars wrth iddi gael ei henwebu am yr actores orau yn y ffilm Florence Foster Jenkins.
Fe fydd yn cystadlu yn yr un categori ag Emma Stone, actores y ffilm La La Land, sydd wedi cipio 14 o enwebiadau – y nifer mwyaf erioed ac yn cyfateb i ffilmiau Titanic ac All About Eve.
Mae’r ffilm gerddorol yn dilyn hanes actores a cherddor jazz ifanc gydag enwebiadau i Ryan Gosling fel yr actor gorau a Damien Chazelle fel y cyfarwyddwr a’r sgript ffilm wreiddiol orau.
Mae’r enwebiadau eraill yn cynnwys sinematograffiaeth gorau, dyluniad gwisgoedd, golygu ffilm, nodau gwreiddiol, dyluniad cynhyrchiad, llun gorau, golygu sain, cymysgu sain a dau enwebiad i’r caneuon gwreiddiol gorau.
Bydd Meryl Streep hefyd yn cystadlu yn erbyn Ruth Negga (Loving), Isabelle Huppert (Elle), a Natalie Portman (Jackie).
Ymhlith y rhai sydd wedi’u henwebu am yr actor gorau mae Andrew Garfield, (Hacksaw Ridge), Ryan Gosling (La La Land), Casey Affleck (Manchester By The Sea), Denzel Washington (Fences), a Viggo Mortensen, (Captain Fantastic).
Mae’r Oscars yn cael eu cynnal eleni yn Los Angeles ar Chwefror 26.