Côr Glanaethwy
Mae 70 o aelodau o Gôr Glanaethwy yn teithio i Efrog Newydd heddiw, i berfformio darn er cof am blant Aber-fan ar lwyfan Neuadd Carnegie yn y ddinas.

Fe gyfansoddwyd y darn, Cantata Memoria gan Karl Jenkins i nodi hanner canrif ers trychineb Aber-fan ar Hydref 21, 1966 pan laddwyd 116 o blant a 28 oedolyn pan lithrodd tomen o wastraff glo dros Ysgol Pant-glas.

Fe gafodd ei berfformio gynta’ yng Nghaerdydd ym mis Hydref y llynedd, ond Côr Glanaethwy sydd wedi’i ddewis i’w ganu am y tro cynta’ yng Ngogledd America.

Perfformiad pwysig 

Mae’r perfformiad yma yn un o’r rhai mwyaf a phwysicaf yn hanes y côr a’r ysgol berfformio.

Ers eu llwyddiant ar y gyfres deledu, Britain’s Got Talent, yn 2015, maen nhw wedi teithio i Batagonia i berfformio; wedi cymryd rhan yn y fersiwn Gymraeg o’r sioe gerdd Les Miserables; yn ogystal â rhyddhau eu seithfed albwm, Haleliwia.

Mae 3 côr yn rhan o Glanaethwy sef y côr plant, y côr ieuenctid a’r côr oedolion ac maent wedi dod ynghŷd i wneud y perfformiad yma. Fe fydd y cyngerdd yn gynhyrchiad anghygoel gyda côr o 300, cerddorfa lawn ac unigolion dawnus i gyd yn canu darn gan gyfansoddwr o Gymru.

Mae Glanaethwy wedi penderfynu cyflwyno’r perfformiad er cof am Olwen Davies, aelod a fu farw ym mis Hydref 2016.

Mwy am y neuadd…

* Mae Neuadd Carnegie yn Manhattan, Efrog Newydd, yn un o lwyfanau mwya’r byd gydag enwogion fel Pavarotti a Bryn Terfel wedi perfformio yno yn y gorffennol;

* Fe gafodd ei hadeiladu yn 1891 gan Anderw Carnegie ac erbyn heddiw mae cannoedd o berfformiadau’n cael eu cynnal yno’n flynyddol;

* Mae’n adnabyddus fel llwyfan i berfformwyr clasurol ond mae cerddoriaeth boblogaidd hefyd wedi ei gwneud hi i’r llwyfan yno gyda band The Beatles yn un o’r rhai cynta’ i wneud hynny;

* Mae 2,800 o seddi yn y brif neuadd sydd erbyn hyn yn sail i jôc, “Wyddoch chi’r ffordd i Neuadd Carnegie?” A’r ateb, “Trwy ymarfer”.