Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mercher, Ionawr 11, i benderfynu p’un ai fydd yna gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.
Mae peth ansicrwydd wedi bod ynghylch y wobr ers rhai wythnosau gyda Llenyddiaeth Cymru yn dweud wrth golwg360 ddiwedd Medi y byddai ganddynt “gyhoeddiad erbyn adeg y Nadolig” … “fel sy’n arferol”.
Er hyn, does dim gwybodaeth am y wobr wedi’i chyhoeddi, na manylion chwaith ar wefan asiantaeth Llenyddiaeth Cymru. Nid oes, fel sy’n arferol, gadarnhad o enwau’r tri beirniad iaith Gymraeg a thri beirniad Saesneg a fyddai wedi hen ddechrau ar eu gwaith yn darllen cyfrolau a gyhoeddwyd yn 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru y bydd y cyfarfod yfory yn trafod “camau nesaf” y wobr.
Y drefn yn ystod y blynyddoedd diwetha’ oedd gwobrwyo llyfrau ffeithiol, nofelau a chyfrolau barddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Fe fyddai’r wobr eleni yn ystyried llyfrau a gyhoeddwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016.