Charlotte Church (Llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae’r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, yn honni iddi gael gwahoddiad i ganu yn seremoni sefydlu Donald Trump – ac mae wedi cyhoeddi i’r byd ei bod wedi gwrthod.
Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Charlotte Church yn dweud iddi dderbyn cais gan dîm yr Arlywydd etholedig i berfformio yng nghyfarfod ei orseddu i’r uchel swydd yn Washington DC.
Aeth yn ei blaen i gyfarch Donald Trump, “byddai chwiliad syml ar y we wedi dangos fy mod i’n meddwl dy fod yn deyrn”.
Mae’r gantores Rebecca Ferguson, a ddaeth yn enwog drwy gyfres yr X Factor, hefyd wedi gwrthod perfformio yn y seremoni ar Ionawr 20.